Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau IEUAN GWYNEDD JONES, Explorations and Explanations. Essays in the Social History of Yictorian Wales. Gwasg Gomer, 1981, tt. 338. £ 9.75. MEWN rhifyn cymharol ddiweddar o'r cylchgrawn hwn (Ionawr, 1981) cefais y fraint o ychwanegu pwt o werthfawrogiad am waith arloesol Ieuan Gwynedd Jones yn y gorchwyl o ddadansoddi hanfodion y gymdeithas yng Nghymru tua chanol y ganrif ddiwethaf. Y mae yn olynydd teilwng i R. T. Jenkins, a chwbl addas yw ymddangosiad y gyfrol hon sy'n gasgliad o'i astudiaethau pwysicaf dros gyfnod o ugain mlynedd a mwy, wyth ohonynt, bron hanner canrif ar ôl ymddangosiad y clasur hwnnw, Hanes Cymru yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. Gwir yw mai'r pedwardegau oedd clawdd terfyn y gyfrol honno ac mai ehangu'r ymchwil o ganol y ganrif i'r saith a'r wythdegau a wna'r Athro Ieuan Jones, ond y mae techneg y gyfrol hon yn bur wahanol gan fod ei hawdur yn cyfuno cyneddfau hanesydd o'r radd flaenaf â medrau'r cymdeithasolegydd modern, a hynny, yn effeithiol, am y tro cyntaf yn y maes hwn. Gwneir y gymhariaeth rhyngddo ac R. T. Jenkins yn hytrach na haneswyr eraill y gellid eu henwi yn rhinwedd y Ue blaenllaw a rydd i ymlyniad crefyddol yn ei archwiliad manwl o gymhlethiad y gymdeithas Gymreig. Fel y dywed yn fersiwn Cymraeg gwreiddiol un o'r astudiaethau hyn, yr oedd yr enwadau crefyddol yng Nghymru, y rhai anghydffurfiol, bid sicr, 'yn llanw y lle blaenaf yn y gymdeithas, yn lleol ac yn genedlaethol. Hwy oedd y gymdeithas; hwynthwy yn bennaf 011 a greodd y gymdeithas.' Teimlir drwodd a thro mai hon yw egwyddor gynhaliol ei holl drafodaethau, ni waeth i ba gyfeiriad yr edrycha nac ar ba drywydd bynnag y cyfeiria ei ymchwil, ac y mae safon ei ddadleuon a sail gadarn ei ysgolheictod yn gyfryw nes ei gwneud yn anodd, onid yn amhosibl derbyn ei fod yn cyfeiliorni. Y mae'n amlwg, ac yn ffaith wybyddus, fod yr Eglwys Sefydledig yn wrthodedig gan y mwyafrif o'r sawl a fynychai addoldai yng Nghymru yn y cyfnod, ond y mae'r rhesymau a rydd yr Athro Ieuan Jones am hynny hwythau yn treiddio at graidd ei ddadansoddiad, canys er cydnabod fod gan yr Eglwys ei phroblemau yn wyneb y cyfnewidiadau a ddaeth i ran cymdeithas yng nghefn gwlad ac yn yr ardaloedd trefol fel ei gilydd, nes gwneud y gyfundrefn blwyfol yn annigonol, methodd yn arbennig am nad oedd bellach ynghlwm wrth wead y gymdeithas i'r un graddau â'r enwadau ymneilltuol. Nid oedd iddi berthynas organig â chymdeithas ac nid oedd ei chysylltiad yn gysylltiad cig-a-gwaed, fel petai, nac yn rhan o batrwm rhythmau cynhenid bywyd economaidd, diwylliannol ac adloniadol cwbl arbennig Cymru. Nid oedd, fel canlyniad, yn fodd i gynnal y gymdeithas honno yn wyneb y newid mawr a oedd ar dro. Yn hytrach, yr oedd yn ddarparedig- gyfundrefnol, yn anhyblyg a sefydledig trwy ddeddfwriaeth, yn osodedig ac yn tueddu i fod yn bendefigol ei naws. Dichon y gellir mynnu nad oes dim byd ysgytwol newydd yn hyn, ond yr hyn sy'n newydd yw'r ymdriniaeth â'r dystiolaeth sy'n sail i'r gosodiad, yr ystyriaethau lu, a'r cwestiynau hefyd sy'n gofyn am eu hateb, a gyfyd yn sgîl yr ymdriniaeth honno. Yn hwyr neu'n hwyrach yr oedd yn rhaid dechrau gydag ail-ystyriaeth o'r dystiolaeth ffeithiol a geir yn y Cyfrifiad Crefyddol a wnaed feI rhan o Gyfrifiad Poblogaeth 1851, neu yn gywirach, gydag ystyriaeth lwyrach o'r dystiolaeth honno nag a wnaed o'r blaen. Mater o ffigurau a chanrannau nad ydynt wrth fodd pawb, efallai, ond ynddynt eu hunain fel y datgelir hwy yn yr astudiaethau hyn y maent yn foddion cywiro nifer o gamargraffiadau a dderbyniwyd gynt fel gwirionedd (ac weithiau, gwaetha'r modd, hyd yn oed yn y dyddiau hyn). Dichon mai'r mwyaf trawiadol yw nad oedd mwyafrif o boblogaeth Cymru yn anghydffurfwyr yn 1851. Y mae'n wir fod yn agos i 80 y cant o'r sawl a fynychai Ian neu gapel ar ddydd penodedig y Cyfrifiad yn anghydffurfwyr, ond nid canran o boblogaeth y wlad (tua 1.2 miliwn) oedd hyn. Y gwir yw mai tua 34 y cant o'r boblogaeth oedd yn bresennol mewn addoldai ar y pryd; traean, nid mwyafrif, a chyda llaw y mae ystyriaeth o'r gweddill, y mwyafrif anymrwymedig, yn ymrithio fel testun ymchwil pellach a holl bwysig nad ydyw eto wedi derbyn yr ystyriaeth y mae yn ei haeddu. Y mae'n wir, ar yr un pryd, fod darpariaeth yr enwadau anghydffurfíol ar gyfer y cyhoedd yn llawer rhagorach nag eiddo'r Eglwys Sefydledig. O'r holl seddau neu leoedd a oedd ar gael mewn mwy na phedair mil o adeiladau pwrpasol drwy'r wlad, cyfartaledd o 30.5 y cant a ddarperid gan yr Eglwys. Yr enwadau a ddarparai'r gweddill, ac mewn rhai ardaloedd fel Meirionnydd a