Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

etholaethau, a llawer mwy. Prin fod angen na gofod i ymdrin yn fanwl a'r rhain. Y maent yn wybyddus i'r cyfarwydd, ond nid mor wybyddus nes gwneud eu darllen drosodd a throsodd yn ddianghenraid, canys canlyniad pob darlleniad yw darganfod awgrymiadau pell-gyrhaeddol, weithiau rhwng y Uinellau, sy'n gwefreiddio'r dychymyg ac yn ysgogi'r meddwl. Fel gyda phob pryd da o fwyd, tuedd y sawl a'i mwynhâ, yn ddistaw bach, yw deisyfu mwy. Felly gyda'r gyfrol hon. Y mae nifer o ysgrifau'r Athro Ieuan Gwynedd Jones nas cynhwysir ynddi. Dichon y teimla rhai y dylid bod wedi cynnwys un neu ddwy o'r rheiny, yn enwedig ei ddwy ddarlith a draddodwyd yn Abertawe yn 1979, Health, Wealth andPolitics in Victorian Wales, lIe y mae yn myned gam ymhellach yn ei gymhwysiad. Teg yw cofio, fodd bynnag, ddarfod iddynt hwy ymddangos fel pamffledyn, a'i bod yn amlwg mai rhaid oedd dethol a dewis yn ofalus er mwyn llunio cyfrol hwylus, gymhedrol ei maint, a gynhwysai rannau o'i waith nad ydynt bob amser o fewn cyrraedd y cyhoedd yn rhwydd. Diolchwn i Wasg Gomer, yn hytrach, am y gyfrol ddestlus hon sy'n arddangosiad teg o seiliau argyhoeddiadau ac athrylith unigryw awdur yr ysgrifau a gynhwysir ynddi. Caerdydd GWYNEDD PIERCE W. BRYN WILLIAMS, Prydydd y Paith. Gwasg Gomer, 1983. £ 3.95. GANWYD y Prifardd Bryn Williams ar 28ain o Orffennaf, 1902. Pan ymddeolodd o'i swydd yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 26ain o Orffennaf 1967 gobeithiai Syr Thomas Parry, y Llyfrgellydd, y câi bymtheg mlynedd eto, a siglai meddwl Bryn Williams 'rhwng gobaith a dychryn wrth imi ystyried cymaint y gallwn ei wneud gyda phymtheg mlynedd o ryddid'. Ni wireddwyd gobaith Syr Thomas yn llwyr oblegid bu farw'r Prifardd bedair blynedd ar ddeg, nid pymtheg, i'r union ddiwrnod yr ymddeolodd, ar 26ain o Orffennaf, 1981. Mae'r Llyfryddiaeth fanwl sydd yn yr Hunangofiant hwn yn arwydd eglur o ddiwydrwydd cynhyrchiol y blynyddoedd hynny a welodd gyhoeddi dramâu, nofelau, barddoniaeth, adolygiadau, ysgrifau, beirniadaethau, ac awdl fuddugol Eisteddfod Genedlaethol y Barri yn 1968: a hyn oll wedi oes o brysurdeb llenyddol. I'r blynyddoedd olaf hyn y perthyn yr Hunangofiant hwn a adawyd yn anorffen adeg ei farw ond a baratowyd yn gymen iawn ar gyfer y wasg gan Mr. Selyf Roberts. Ni ellir llai na theimlo mai llyfr yr oedd yn rhaid i Bryn Williams ei ysgrifennu oedd hwn. Yr oedd ganddo stori ramantus i'w hadrodd a gwna hynny gyda hunanhyder y llenor profiadol. Yr oeddem oll yn gyfarwydd ag allanolion yr hanes oherwydd wrth gyflwyno Gwladfa Patagonia i'r Cymry gartref yr oedd yn anorfod ei fod yn sôn i ryw raddau am ei ddyheadau a'i yrfa ef ei hun. Pwnc diddorol i'w olrhain rywbryd gan un cymwys fydd ymagwedd y Cymry at y Wladfa a'u hymwybyddiaeth ohoni. Pan wneir yr astudiaeth honno bydd cyfraniad Bryn Williams i'n cydnabyddiaeth o'r Wladfa a'r ymdeimlad o ddyletswydd tuag ato yn ystod y deugain mlynedd diwethaf yn allweddol. I lawer ohonom, Cymry Patagonia, yn llyfr gosod yn yr ysgol oedd ein cyflwyniad cyntaf i'r hanes, ac ni phallodd ymgais yr awdur i sicrhau fod stori arwrol y sefydlu a'r ymdrech i gadw hunaniaeth yn tyfu'n rhan o'n hanes diweddar ninnau. Mae'n siwr fod llawer eto i'w ddweud. Ceir awgrym o wythïen anghofiedig yn yr Hunangofiant hwn yn y disgrifiad o amodau byw a masnachu yn y trefi a'r pentrefi Cymraeg ac o fuchedd y Cymry nad oedd bywyd y capel yn elfen bwysig yn eu bywyd. Y mae'n dda cael ein hatgoffa fod mwy nag un haen yng nghymdeithas Gymraeg y Wladfa. Ond nid hanes y Wladfa yw prif thema'r llyfr hwn eithr ymgais llenor, ar ddiwedd oes, i geisio dod i delerau â'r hyn a'i ffurfiodd. Ysgrifenna Bryn Williams yn onest a heb flewyn ar dafod, ond heb ganiatáu i hynny droi'n ymosod ar neb nac yn ddifrïo safbwynt rhywrai eraill. Ni ellir ond edmygu onestrwydd ei ddadansoddiad o'r ffactorau a'i harweiniodd i mewn i'r Weinidogaeth ac a'i tynnodd ef allan ohoni yn hanner cant oed; neu'r modd cwbl agored y mynegai ei siomedigaethau personol. Y mae'n ddidwyll ei ddiolch i'r rhai a'i cefnogodd ar y ffordd ac nid oes dim tynerach yn hanes ei fywyd na'i werthfawrogiad diffuant o'r cyfeillion a'i cynorthwyodd trwy gydol ei gyfnod anodd, oherwydd ei afiechyd, fel Archdderwydd. Bu'n ddigon doeth hefyd, fe deimlir ar adegau, i beidio ag adrodd y cyfan. Er hynny, tinc siom a glywir yn gyson yn y stori-gwr wedi'i siomi yn safonau'i gyd-Gymry, yn llenorion, yn gapelwyr, yn addysgwyr, ac yn fwy na dim yn ei dderbyniad ganddynt. Y mae'n ymwybod â deuoliaeth ei