Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

deyrngarwch a'i ymlyniad wrth ddwy ‘bobl'. Yng Nghymru hiraethai am hafau hamddenol a rhyddid dyddiau'i ieuenctid yn y Wladfa; yno ymdeimlai â'i Gymreictod. Methai benderfynu i ble y perthynai, efallai am ei fod yn rhy hen yn mynd i'r Wladfa ac yn rhy ifanc yn dod oddi yno. Ymgais i ddatrys problem y ddeuoliaeth hon a'i goblygiadau iddo efyn bersonol yw'r Hunangofiant, cyfrol yr oedd yn rhaid ei hysgrifennu. Ni fu'r datrys yn hawdd: mae'n ymestyn o ennill Cadair Eisteddfod Abertawe a'rdaith ganmlwyddiant, hyd y daith olaf yn 1967-68, ac ennill Cadair Eisteddfod y Barri a'r Archdderwyddiaeth. Gwr wedi gweithio allan ei iechydwriaeth ei hun sy'n edrych 'Dros y Blynyddoedd' yn y bennod olaf, ac y mae'n hyfryd canfod cyfnodau'r dadrithiad yn cilio a'r haul yn codi eilwaith tua diwedd oes. Testament diffuant llenor ydyw Prydydd y Paith. Bydd o ddiddordeb i bawb a swynwyd gan ysgrifennu Bryn Williams ac a'i parchai fel lladmerydd Cymry Ariannin; ond mae iddo'i werth ei hun yn fynegiant onest o daith bywyd personoliaeth gymhleth. BRYNLEY F. ROBERTS PENNAR DAVIES, Yr Awen Almaeneg. Gwasg Prifysgol Cymru, 1983, tt. xi. 97. £ 3.95. MAE'R Dr. Pennar Davies wedi casglu detholiad o farddoniaeth Almaeneg o'r dechreuad hyd at gychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn esbonio'r 'Almaeneg' yn ei deitl gan fod llawer o'r cyfansoddiadau gan feirdd o'r Swistir ac Awstria. Amlinella'r Rhagymadrodd dwf graddol yr amryw dueddiadau o Y Oesoedd Canol hyd tua 1914 ac ychwanega hyn at ddiddordeb a gwerth y detholiad. Yn wir y mae y Rhagymadrodd yn wyrth o grynhoi teg ac eglur o gynnyrch cyfnodau cynhyrfus hanes yr Almaen a'i chymdogion yng ngoleuni syniadaeth pob un. Rhagflaenir gwaith pob bardd gan arweiniad clir i'w fywyd a'i oes, gan ddwyn i'r golwg rhai elfennau diddorol, megis llinach Gymreig chwedl Parzival arwr Wolfram von Eschenbach, a Thristan yng ngwaith Gottfried. Ceir y ddwy fersiwn o In dulci Iubilo, enghraifft dda o ddawn y myneich i secwlareiddio caneuon, fel mae'r emyn Lladin i'r Gair, Verum bonum et suave yn troi yn Vinum bonum et suave. Gellid bod wedi crybwyll dylanwad y Cymro John Owen ar epigramau oes Logau, Grimmelshausen a Silesius (Gw. E. Urban, Owenus unddie deutschen Epigrammatiker des XVII Jahrhunderts, Lit. Forsch. II. Berliu, 1900). Maepobarweiniad yn bwrpasol ac awgrymog y tu hwnt i egluro cefndir y caneuon. Yn naturiol bu chwaeth ein cyfnod ni a newid safonau yn ogystal â chwaeth yr awdur yn dylanwadu ar y dewis. Fel y dywedir yn y Rhagair (t. vii) 'Mae yma yn anochel rai darnau a geir ym mhob detholiad cyffelyb ac yn eu plith nifer o uchelfannau barddoniaeth Almaeneg ond y mae hefyd rai darnau sydd o ddiddordeb hanesyddol ac eraill a aeth yn adnabyddus am i gyfansoddwyr eu gosod i fiwsig.' Diddorol iawn yw cymharu'r dewis, e.e., o Cathlau Heine Syr John Morris Jones. Ychydig sydd yma o'r telynegion serch ond llawer o'r dychan politicaidd: e.e., t. 76: Siwr mae'r rhyfel drosodd 'nawr- Ond mae'r llysoedd lladd yn traethu, "Sgwennaist ddigon" meddan nhw, "Iddynt gyfiawnhau dy saethu". Yn bersonol hoffwn weld mwy o emynwyr eraill cyfnod Luther ac efallai o'r canigion bach gwerin o'r cyfnod cynnar. Yr wyf yn falch iawn o weld iddo gyfieithu 'i'r un mesurau ag a geir yn y cerddi gwreiddiol'. Mae ffurf cân mewn print yn adlewyrchiad ohoni i'r llygad a dylid ei gadw hyd y gellir-peth sy'n bosibl mewn ieithoedd acennog fel Almaeneg a Chymraeg, os nad yn yr ieithoedd clasurol a reolir gan hyd y sillaf. Fel y dywed y cyfieithydd gesyd y dull hwn ei gyfyngiadau ei hun arno ond daw â'r darllenydd Cymraeg yn nes at y gwreiddiol. Gwn fod rhai a fynn y dylai'r cyfieithydd geisio cadw'n gaeth at reolau'r awen Gymraeg ond yn fynych y mae tor-mesur ac amrywiadau yn hanfod y gwreiddiol. Ac wrth gwrs lie bwriedir canu'r geiriau, rhaid cadw at y ffurf wreiddiol (e.e., Ni ffromaf ddim, t. 76, o eiriau Heine at fiwsig Schumann). Llwyddwyd i gadw cywirdeb ffurf ac ystyr yn y gyfrol hon, a gallwn ei chroesawu a diolch amdani. Fel enghraifft o gyfieithu destlus sy'n cadw sawr y gwreiddiol gellir dyfynnu dechreuad can Gottfried Keller i Amser.