Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Aberystwyth J. HENRY JONES HARRI PARRI (gol.), Ffynnon ac Allor. Gwasg Pantycelyn, 1983. £ 2.00. CASGLIAD o homilïau a gweddïau wedi eu golygu gan y Parch. Harri Parri yw Ffynnon ac Allr. Pregethwyr adnabyddus yw mwyafrif yr awduron, a chrynodeb o bregeth yrighyd â gweddi yw pob cyfraniad bron. Yn ôl y cyflwyniad un pwrpas i'r gyfrol yw 'bod o wasanaeth i eglwysi mewn oedfa gyhoeddus'. Rhaid felly ystyried addasrwydd y gyfrol at y pwrpas hwnnw. Os y pwrpas oedd paratoi homili a gweddi y gellid eu darllen i gynulleidfa yn niffyg gwasanaeth pregethwr, go brin y gellir cymeradwyo'r gyfrol gan y byddai'n porthi diogi ac ysbryd anghyfrifol yn aelodau'r eglwys. Os y bwriad oedd paratoi deunydd y gall aelod fyfyrio arno ymlaen llaw a'i addasu yng ngoleuni ei brofiad ei hun cyn arwain cynulleidfa, yna gall y llyfr fod yn werthfawr. Ond byddai'n well fyth i'r cyfryw aelod gyflwyno'r deunydd a gwahodd y gynulleidfa i'w drafod o safbwynt eu profiad a'u sefyllfa bersonol. Mewn erthygl yn rhifyn cyntaf Cristion mae'r Athro D. P. Davies yn galw sylw at ddatblygiad sy'n digwydd mewn eglwysi mewn llawer rhan o'r byd, lle mae gweinidogion ac offeiriaid yn paratoi eu pregethau a'u gwasanaethau gyda'u haelodau yn hytrach na'u paratoi ar eu pennau eu hunain ar gyfer yr aelodau. 'Rwy'n argyhoeddedig', meddai'r athro, 'fod cynulleidfa gyfan yn gallu dehongli'r Efengyl ar ffurf fwy cyffrous ac ystyrlon nag sy'n bosibl i unigolyn ar ei ben ei hun'. Mae'r homilïau a'r gweddïau sydd yn y gyfrol hon yn cadarnhau ei eiriau ac yn dangos gwir angen am ddatblygiad o'r fath yng Nghymru: yn wir, o'u hiawn ddefnyddio gallant hybu'r cyfryw ddatblygiad. Aberystwyth HUW WYNNE GRIFFITH E. G. MILLWARD(GoL), Ceiniony Gân: Detholiado Ganeuon Poblogaidd Oes Victoria. (Gwasg Gomer, 1983.) Tt. i-xxxi, 1-110. Pris £ 5.75. UN o'r pethau sy'n taro dyn wrth ystyried oes Victoria ail hanner y ganrif ddiwethaf, dyweder -yw ei bod hi'n oes sy'n agos ac eto ymhell. Mae ei syniadaeth hi, ei thueddiadau meddyliol a diwylliannol, yn rhan fyw o'n cynhysgaeth ni. Hyd yn oed i'r rheini ohonom sy o dan ddeugain, y mae agweddau ar ddiwylliant yr oes sy'n dal yn fyw yn y cof ac yn y meddwl. Fe'u trosglwyddwyd inni drwy gyfarfodydd y festri, mân eisteddfodau, a chan ambell i athro ysgol gynradd mwy henffasiwn na'i gilydd. Pwnc y llyfr hwn yw'r math o ddiwylliant a drosglwyddwyd drwy'r sianelau hynny. Dyna paham yr oedd rhywun yn teimlo, wrth ddarllen y caneuon, ei fod yn troi mewn byd cyfarwydd. Ac eto, er iddo fod yn gyfarwydd, byd gwrthodedig ydyw. Gwaddol y dymunwn ei anghofio yw gwaddol oes Victoria. Mae nifer helaeth o agweddau meddwl y bedwared ganrif ar bymtheg yn gwbl anghydnaws â'n byd syniadol ni. Nid ydym yn bodloni ar sylwi ar y dieithrwch chwaith; y mae rhyw antagonistiaeth yn bodoli sy'n peri na allwn lai na beirniadu a dilorni. Go brin fod unrhyw gan mlynedd mewn hanes wedi creu cymaint o fwlch meddyliol â'r blynyddoedd rhwng 1880 a 1980. Yn ei ysgrifeniadau ysgolheigaidd a beirniadol ar y bedwaredd ganrif ar bymtheg, bu Mr. E. G. Millward yn fwy na chroniclwr; bu'n lladmerydd i'r cyfnod. Gwyr y sawl a ddarllenodd ei waith ar Eben Fardd a beirdd Eifionydd, neu a ddarllenodd ei sylwadau ar William Owen Pughe yng ngholofnau'r Faner yn ddiweddar, ei fod yn hoff o gwnnu llewys rhai o feirdd a llenorion y ganrif. Y mae'n gwneud hynny, wrth gwrs, mewn ffordd gytbwys a theg drwy geisio egluro cefndir a Ni threigla Amser. Saif yn stond, A ninnau ar ein taith. Ein carafanseral yw ef I'n pererindod maith, Di-lun, di-liw, rhyw Rywbeth yw, Heb gynllun yn y byd Ond dod i fod a suddo i lawr A chilio'n llwyr o hyd.