Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mae'r rheini yn tueddu i fod yn gyfnewidiol p'run bynnag, a byddem ninnau heddiw yn gwrthod rhai o safonau moesol oes Victoria, ond yn dal i arddel rhai eraill. Sôn yr wyfyn hytrach am y berthynas oddrychol rhwng moesoldeb a'r hunan. Yr hyn sy'n drawiadol ynghylch y beirdd hyn yw eu bod mor gwbl sicr o'u pethau, yn foesol ac ysbrydol. Y mae'r sicrwydd hwnnw yn anathema i feddylfryd yr ugeinfed ganrif. Wrth ddarllen eu gwaith, gellir ymdeimlo â'u hyder fod yr hyn sy'n gyfiawn yn trigo oddi mewn iddynt eu hunain. Eu tuedd barod yw allanoli pechod, gweld pob diffyg a bai yn bodoli o'r tu allan iddynt hwy. Ni allai dim fod ymhellach oddi wrth ymwybod ingol emynwyr Methodistaidd dechrau'r ganrif â'u pechadurus- rwydd personol, ar y naill law, neu ansicrwydd ambifalent beirdd mawr yr ugeinfed ganrif ar y llall. "Rwy'n wych, 'rwy'n wael, 'rwy'n gymysg oll i gyd' meddai R. Williams Parry un tro. Ni allai awduron y caneuon hyn fod wedi amgyffred llinell o'r fath, chwaethach ei llunio. Pwysleisia'r golygydd mai'r mater, ac nid y modd, oedd yn mynd â bryd y beirdd. 'Neges y gân a'i dylanwad oedd y cwbl ynyr apêlemosiynolyroedd yfarddoniaethi'rbeirdd hyn.' Gan hynny, a chan fod yr 'apêl emosiynol' i raddau helaeth yn annerbyniol erbyn heddiw, rhaid gofyn a oes gwerth parhaol i'r cerddi hyn fel prydyddiaeth. Barn yr Athro Bobi Jones yn ei gyflwyniad yw bod yna 'rai cerddi a saifyn syml oherwydd bod ynddynt werth arhosol, megis 'Cân y Fam i'w Phlentyn', 'Bedd y Dyn Tylawd', 'Cân Gwraig y Pysgotwr'. Prin, rhaid cyfaddef, yw'r cerddi sy'n sefyll yn eu hawl eu hunain. Na, apêl hanesyddol sydd i'r casgliad hwn. Trwyddo, dyfnheir ein hadnabyddiaeth a'n dealltwriaeth o feddylfryd ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r cyfnod hwn bellach, oherwydd cyfraniadau'r golygydd ac ysgolheigion eraill megis Mr. Huw Williams, y Dr. R. Tudur Jones, a Mr. Hywel Teifi Edwards, yn llawer goleuach nag y bu. Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. BRANWEN JARVIS GLYN TEGAI HUGHES, Williams Pantycelyn. (University of Wales Press on behalf of the Welsh Arts Council, 1983.) Tt. 139. Pris: £ 2.95. YR wyf yn llunio'r adolygiad hwn ar gyfrol newydd Dr. Hughes yn y gyfres 'Writers of Wales' bythefnos union wedi imi gywiro proflenni cyfrol fechan o'm gwaith fy hun ar Bantycelyn a gyhoeddir mewn cyfres debyg. Erbyn i'r llith hwn ymddangos, bydd y gyfrol fach honno wedi cael ei chyhoeddi, ac fe wêl pawb a ddarlleno'r ddwy iddynt gael eu llunio o safbwyntiau cwbl wahanol i'w gilydd. Nid yw hynny'n beth drwg o gwbl. Safbwynt Dr. Hughes yw'r safbwynt mwyaf ffres a gwreiddiol; ac nid yn ffug ostyngedig y dywedaf fod rhai o'i ymdrinaethau ef, megis ei drafodaeth ar Aurora Borealis a'i ddadansoddiad o rai o'r emynau mawr, yn fwy treiddgar ac yn fanylach na dim a geir gennyf i. Sefais i i edrych ar Bantycelyn o'r un fan, er nad gyda'r un sbienddrych, ag y safodd Thomas Charles o'r Bala i edrych arno yn 1813, a Saunders Lewis yn 1927, ac yn ddiarwybod i Dr. Hughes a minnau o'r un fan ag y safodd Emyr Humphreys i edrych arno yn ei bennod 'The Wind of Heaven' yn Taliesin Tradition, 1983. I ni'n pedwar, yr oedd ac y mae Williams Pantycelyn yn llenor arloesol, chwyldroadol yn wir. Deil Dr. Hughes, ar y llaw arall, taw etifedd Piwritaniaeth ydyw, o ran ei ddiwinyddiaeth a'i lên: 'his reading,' meddai, yn gynnar yn y gyfrol, 'reveals him as the heir of Puritanism, in its literary as well as its theological tradition.' (t. 5.) Dyma thesis yr awdur, a dyna gyweirnod y gyfrol drwyddi, yn arbennig y rhannau helaeth ohoni sy'n trafod yr epigau, y marwnadau, a'r llyfrau rhyddiaith gwreiddiol. Dyfynnaf ymhellach: Spiritual autobiography, biblical typology, the pilgrimage experience, the signs and stages of conversion, and incipient millennarianism, these are the reticulation of Pantycelyn's work and they largely derive from Puritanism. (t. 8.) [Bywyd a Marwolaeth Thomemphus] is, in a remarkable way, a new departure in Welsh and reveals considerable psychological actuity; but it is best understood in the Puritan tradition of what one might call magnified spiritual autobiography, (t. 35.) Yr un modd gyda rhai o'r emynau. Wrth ymdrin a'r eroticiaeth sydd i'w chanfod yn rhai ohonynt, gwêl Dr. Hughes gynsail i driniaeth ddeongliadol Williams o Ganiadau Solomon yn Clavis Cantici