Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

i lanw Piwritaniaeth Lloegr dreio. Er iddo dynnu'n drwm o goffrau llen yr ail ganrif ar bymtheg, gwelai Williams ei hun fel lladmerydd llenyddol Diwygiad a oedd yn drobwynt mewn hanes, Diwygiad a'i gorfododd â'i awen nefol i gyflawni pethau newyddion o hyd ac o hyd. Ys dywed Emyr Humphreys yn The Taliesin Tradition, t. 97, 'In almost all his writing he was obliged to be a pioneer.' Er bod rhai o'i weithiau, o ran eu ffurf, yn gopïau o ffurfiau a luniwyd neu a berffeithiwyd gan y dychymyg Piwritanaidd, eto i gyd yr oedd i'w cynnwys ac i'w hysbryd ac i'w mynegiant arswyd dieithr. Fe led-gyfeddyf Dr. Hughes hyn pan ddywed fod i Theomemphus ddwyster angerdd ('intensity') nas ceir gan ragflaenwyr Saesneg yr awdur (gweler y dyfyniad o dudalennau 24-25 uchod). Yn yr un modd, wrth drafod Llythyr Martha Philopur ac Atteb Philo-Evangelius ar d. 56, fe ddywed eu bod yn llamu'n fyw. Onid y dwyster angerdd hwn a'r bywyd hwn yw'r union nodwedd sy'n codi Williams fel llenor ymhell uwchlaw Dr. Goodwin, Dr. Owen, Dr. Gill, Marshall a'r lleill y gwyddys ei fod yn ddyledus iddynt am rai pethau? Wrth drafod yr emynau yn ogystal, y mae Dr. Hughes yn canmol yn fawr lwyddiant cwbl anghyffredin Williams yn agor posibiliadau lawer y delyneg Gymraeg, a'r modd y cyflwynodd i farddoniaeth ei iaith ei hun 'the introspective intensity of the Protestant Reformation with its analysis of spiritual states, its anatomy of the Christian soul -elect, backsliding, regenerate and expectant'. (t. 123.) Er imi ddweud gynnau fod y gyfrol hon yn rhoi'r argraff taw llenor ôl-Biwritanaidd oedd Williams, rhaid dweud fod yr adran ysblennydd ar yr emynau yn pwysleisio'i fawredd annibynnol ac arloesol. Cefais flas mawr ar y llyfr, O do: y mae'n llyfr meddylgar, cyffrous. Nid bob dydd y ceir traethawd beirniadol clir ei safbwynt ar lenor o Gymro y gellir dysgu oddi wrtho ac anghytuno â nifer o'i gasgliadau. Y mae Pantycelyn, fel yr Wyddfa, yn ddigon mawr inni geisio'i ddringo o sawl cyfeiriad. Gwendid mewn beirniadaeth yw bodloni ar ddilyn un neu ddau llwybr yn unig. Y mae hynny'n arwain at gynefindra, a chynefindra'n arwain at ddiogi wrth werthfawrogi, ac y mae'r 011 yn arwain yn y pen draw at syrthni meddyliol ac ysbrydol. Williams ei hun biau dweud na ddylai llyfrau bylu'r ysbryd yn lle ei fywiocáu, na ddylent lethu'r dychymyg yn lle ei helaethu, nac ychwaith flino'r deall â hen bethau yn lle datguddio iddo bethau newyddion. Mae llyfr Dr. Hughes yn llyfr angenrheidiol. Ac er na chredaf taw rhywle yn y canol rhwng Pantycelyn Rhamantaidd Saunders Lewis a Phantycelyn Piwritanaidd-ddyledus Glyn Tegai Hughes y gorwedd y Pantycelyn iawn yn ei gyflawnder, mae'n bleser gennyf groesawu'r ymdriniaeth hon, a'i chymeradwyo'n gynnes i ddarllenwyr Y Traethodydd. DEREC LLWYD MORGAN D. BEN REES (gol.), Oriel Heddychwyr Mawr y Byd. (Cyhoeddiadau Modern Cymreig, 1983.) Tt. 120. Pris £ 3.00. YN y gyfrol hon ceir braslun o fywyd, gwaith a syniadau deuddeg o ddynion a dwy ferch a ddisgrifir gan y golygydd fel rhai o 'heddychwyr blaenaf ein daear'. Y rhai a bortreadir yw Samuel Roberts (S. R.), Henry Richard, Tolstoi, Gandhi, George M. Ll. Davies, Gwilym Davies, George Lansbury, Richard Roberts, Martin Niemöller, Dorothy Day, George Appleton, Daniel Berrigan, Donald Soper a Simone Weil. Y mae pob un o'r pedair erthygl ar ddeg wedi ei hysgrifennu mewn Cymraeg graenus sy'n bleser i'w ddarllen a cheir llyfryddiaeth ar ddiwedd pob erthygl. Tybed, fodd bynnag, ai doeth oedd ceisio gwasgu pedwar portread ar ddeg i gant ac un ar ddeg o dudalennau? Y mae rhai o'r erthyglau'n llwyddo i ymdrin yn weddol fanwl â syniadau heddychol y gwr neu'r wraig a bortreadir ond nid yw ambell ysgrif yn ddim amgen na rhestr o ddigwyddiadau. Efallai y dylid fod wedi cyfyngu ar y nifer o erthyglau gan gadw nifer tudalennau'r llyfr yr un fath. Gellid wedyn wahodd cyfranwyr i ymdrin yn llawnach â syniadau'r un a bortreadir ganddynt. Honiad y golygydd yn ei ragymadrodd yw fod `. pob un a dderbyniodd wahoddiad i gyfrannu i'r gyfrol hon wedi cofio mai'r dystiolaeth heddychol oedd yr hyn a ofynnid amdano'. Ond y mae ambell gyfrannwr wedi llwyddo'n well na'r lleill i gadw at y canllawiau ac i ymdrin â daliadau heddychol. Dengys y teitl a'r rhagymadrodd nad pwrpas y llyfr hwn yw ymdrin yn haniaethol â heddychiaeth. Yr hyn y gellid ei ddisgwyl ymhob erthygl yw ymdriniaeth o ffynhonnell daliadau heddychol yr un a bortreadir, y modd yr amlygwyd hwynt yn ei fywyd, ac effaith y syniadau yma arno ef (neu hi) ac ar eraill. Cafwyd hyn mewn nifer o'r erthyglau. Dengys Iorwerth Jones, er enghraifft, yn ei ymdriniaeth o Gandhi, darddle a dylanwad