Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mawr syniadau heddychol y gwr hwnnw a'r pris a dalodd am eu gweithredu. Dywed J. H. Griffiths i Donald Soper honniym 1950 y byddai'n well ganddo ef a'i deulu fod o dan draed Rwsia tros gyfnod yn hytrach na wynebu rhyfel niwclear, a chrynhodd y papurau ei neges i'r frawddeg: better Red than dead'. Ni ellid coleddu a gweithredu syniadau heddychol heb i'r heddychwr, ei deulu, ac yn wir y gymdeithas gyfan, pe mabwysiedid heddychiaeth ganddi, dalu'r pris. Amharod fu dynoliaeth i arddel heddychiaeth a lleiafrif a fu heddychwyr pob oes. Er bod y mudiad gwrth-niwclear yn cynyddu, eto nid yw, ac ni fu, heddychiaeth yn ystyr fanylach y gair yn boblogaidd o gwbl hyd yn oed ymhlith Cristnogion. Casineb a dirmyg a ddaeth i ran heddychwyr pob cyfnod a dangosir hyn yn nifer o'r portreadau. Er hyn dywed D. Ben Rees i George Lansbury weld ei ddelfrydau'n cael eu dryllio ac iddo farw fel Keir Harddie wedi torri ei galon yn llwyr. Wedi nodi i Lansbury farw ym mis Mai 1940 ychydig fisoedd cyn i'r Luftwaffe ddinistrio ei gartrefyn Bow Road, Llundain, dywed Mr. Rees: `. Dymaunoergydionrhyfeddaf troeonyryrfa: heddychwr addadleuodd morddygndros gymod bron a chael ei chwythu yn yfflon gan y sataniaid rhyfelgar.' Ond ai un o ergydion rhyfedd troeon yr yrfa yw hyn? Gan fod drygioni yng nghalonnau dynion pa sail sydd i obeithio na chaiff heddychwr ei gam drin gan 'sataniaid rhyfelgar' a chan rai hefyd na ellid eu disgrifio'n 'sataniaid rhyfelgar'. Llyfr yw hwn, fodd bynnag, i'w ddarllen ac i'w ystyried yn ofalus. Da o beth yw cael ein hatgoffa (neu ein goleuo am y tro cyntaf) am rai a fu'n arddel a gweithredu syniadau heddychol. Yn ôl y golygydd y gyfrol gyntaf mewn cyfres yw'r gyfrol hon Gobeithiaf y bydd i'r llyfr hwn a'r cyfrolau eraill a arfaethir, ysgogi llawer i feddwl yn ddwys am broblemau rhyfel a heddwch. Aberystwyth IOLO WYN LEWIS PENNAR DAVIES, E. Tegla Davies. (Gwasg Prifysgol Cymru ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru, 1983.) Tt. 101. Pris: £ 2.95. MAE'R gyfres Writers of Wales wedi datblygu'n llyfrgell bur helaeth o lyfrynnau ar awduron Cymreig gan feirniaid hyddysg. Mae'r gyfrol ddiweddaraf hon yn ychwanegiad teilwng iawn at y casgliad. Fe ddylai ymdriniaeth Dr. Pennar Davies agor llygaid llawer un a dybiodd nad yw Tegla'n awdur gwerth ymdrafferthu ag ef. Digon gwir fod Pennar Davies yntau'n gweld ei feiau artistig yn glir ac yn eu nodi'n fynych, ond mewn dyfarniadau cryfion megis 'Tegla Davies is a greatly gifted writer' a 'Tegla's magical power as a myth-maker' mae'n cyhoeddi rhagoriaethau'r llenor-bregethwr yr un mor groyw. Mae'r gyfrol yn agor â bywgraffiad gweddol faith, lle y rhoddir teyrnged deilwng i gofiant cynhwysfawr y Parch. Huw Ethall i Tegla. Fe allem ni sy'n gyfarwydd âhanesbywydTegladdymuno bywgraffiad mwy cryno ac ymdriniaeth dipyn hwy â rhai o'r gweithiau. Ond o gofio bod y gyfrol hon wedi'i hanelu'n bennaf at ddarllenwyr di-Gymraeg ac nad oes dim cyn hyn wedi'i gyhoeddi ar Tegla yn Saesneg, ac o gofio hefyd mor amrywiol a theithiol fu bywyd Tegla, rhaid cydnabod mai doeth fu rhoi cymaint o ofod i ddarlunio bywyd y dyn y tu ôl i'r llyfrau. I Pennar Davies, mae'n amlwg fod adnabod y dyn a gwybod am ei lu profiadau yn allwedd i'w gynhyrchion, ac ni fyddwn i, yn sicr, yn cweryla â'r farn honno. Mae'r crynodebau o'r gwahanol lyfrau yn glir a diddorol. Diddorol hefyd yw barn Pennar Davies am eu gwerth. Am y nofel Gwr Peny Bryn fe ddywed: 'It must be reckoned as one of Tegla's failures, despite a promising plot, an interesting background and episodes that deserve to come off'. Yn gwbl deg mae'n nodi barn Saunders Lewis fod y nofel yn rhy debyg i bregeth, ond yn mynnu nad oes dim o'i le mewn gwneud troedigaeth yn fater nofel os gwneir hynny'n argoeddiadol a bod nofelau Dostoiefsci a Tolstoi lawn mor ddidactig. Fe ddyfarnodd D. Tecwyn Lloyd fod Gwr Peny Bryn yn nofel fawr; barn Gilbert Ruddock yw bod ei chynllun yn gymeradwy ac yn daclus iawn, ond yn rhy daclus. Fel beirniad cytbwys mae Pennar Davies yn cyflwyno'r gwahanol farnau hyn i'r darllenydd eu hystyried heb gelu dim ar ei farn ei hunan.