Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gomer Morgan Roberts NID gwaith hawdd oedd llunio cyfrol deyrnged a fyddai'n cyrraedd safon digon uchel i fod yn deilwng o haeddiant y Parchedig Gomer Morgan Roberts, ac nid canmoliaeth fechan yw dweud fod y Parchedig J. E. Wynne Davies fel golygydd wedi llwyddo i wneud hynny.' Nid oes odid neb yn y Gymru sydd ohoni'n teilyngu cyfrol deyrnged yn fwy nag ef. Yn ei 'Ragair' mae'r golygydd yn sôn am gyfraniad 'unigryw' Mr. Roberts i hanes Methodistiaeth Galfinaidd Cymru ac yn sôn am ymdeimlad y cyfundeb o ddyled iddo oherwydd y cyfraniad hwnnw. Drwy gyfrannu at hanes y cyfundeb y mae, wrth gwrs, wedi cyfrannu hefyd at hanes diweddar Cymru ac wedi gosod ei genedl hithau dan ddyled iddo. PwysleisiaY golygydd mor amrywiol fu ffyrdd Mr. Roberts yn cyfrannu ei wybodaeth. Cyflwynodd ei wybodaeth i'r rhai a ddarllenai bapurau dyddiol ac wythnosol gan eu hatgoffa o draddodiadau a chefndir eu hardaloedd. Cyfrannodd yn helaeth i gylchgronau gan amlygu'r ddawn o gyfuno'r difyr a'r dysgedig wrth iddo gyffwrdd â gwahanol agweddau o'n diwylliant. Diogelodd i'r hwn a garai wybod mwy am hanes ei genedl lyfrau safonol, a bu ei ymchwil i ddechreuad Methodistiaeth yn amhrisiadwy. Ceisiwyd paratoi cyfrol a fyddai o ran ei naws yn adlewyrchu'r amrywiaeth hwn. Da yw gallu dweud fod y golygydd wedi llwyddo yn ei amcan. YmrannaY gyfrol yn ddwy ran, yn wir, yn dair, os cyfrifir y llyfryddiaeth gyflawn yn rhan, ac anodd iawn yw peidio. Dwg y rhan gyntaf y teitl gwylaidd Trem ar ei fywyd', ond y mae'n ddigon cyflawn i'w galw'n 'Gofiant', oni bai fod y gwrthrych drwy drugaredd ac er ein mawr fantais yn dal yn ein plith, ac er ei fod wedi gwneud mwy na digon eisoes i'w goffáu, nid yw wedi rhoi ei gryman ar y mur, oblegid nid oes llawer o wythnosau er pan welais lythyr a sgrifennwyd ganddo'n ateb cais am wybodaeth ac a oedd yn nodweddiadol feistrolgar. 'Roeddwn yn arfer meddwl fy mod yn bur hysbys yn hanes Mr. Roberts, ond nid oeddwn wedi darllen mwy na thudalen o'r rhan gyntaf hon cyn i mi sylweddoli fod gennyf lawer i'w ddysgu amdano a'm bod yn ffodus fod gennyf y fath wr cyfarwydd â'r golygydd i'm hyfforddi. Mae'n amlwg ei fod ef wedi darllen holl weithiau Mr. Roberts am gyfeiriadau hunanfywgraffiadol a dichon ei fod ef, fel minnau, wedi synnu fod cynifer ohonynt. Ond ni fodlonodd ar atgynhyrchu'r cyfeiriadau hynny Yi beiriannol; fe'u gweodd yn hanes diddorol a difyr. Gwnaeth yn fawr o'r fantais a oedd ganddo ei fod nid yn unig yn cyfranogi ym mhrif ddiddordeb ei wrthrych, sef hanes y Methodistiaid Calfinaidd, ond hefyd wedi ei fagu mewn ardal gyfagos i'w fro enedigol, sef Llandybïe. Diddorol dros ben yw disgrifiad y golygydd o wehelyth Mr. Roberts. 'Roedd teulu ei dad yn hanfod o blwyf Llanfihangel Aberbythych yn nyffryn Tywi a theulu ei fam yn dod o ardal Llandyfân a'r Trap a Charreg Cennen. 'Roedd y wlad, felly, yn rhan o gefndir Morgan a Rachel Roberts o'r dechrau, ac ni chefnasant arni, oblegid pan briodasant a mynd ati i godi eu haelwyd eu hunain, yng Nghwm-bach, 'lle bach', neu dyddyn, ar gyrion Llandybïe y gwnaethant hynny, ac yr oedd yn dda iddynt fod ganddynt y 'lle bach' a'i gynnyrch i'w helpu i