Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ffrindiau Cleanthes UN o glasuron athronyddol diwylliant y Gorllewin yw Dialogues Concerning Natural Religion David Hume. Mae'r prif ddadleuon rhwng Cleanthes a Philo. Maent yn ymwneud â phosibilrwydd bodolaeth Duw ac â'i brofi ar sail y ffeithiau am y byd o'n cwmpas. Mae Cleanthes am gasglu hynny ar sail dadleuon anwythol (inductive arguments). Mae Philo am wadu'r posibilrwydd. MaeY ysgolheigion bron i gyd yn cytuno, erbyn hyn, fod Philo yn mynegi barn Hume ei hun am y materion hyn. Yn ddiweddar, cafodd safbwynt Cleanthes adfywiad yn llyfrau Richard Swinburne, The Coherence of Theism, The Existence of God a Faith and Reason. Yn ôl Cleanthes, y tebycach yw Duw i ddyn, gorau'i gyd ('the liker, the better'). Mae Christopher Williams wedi disgrifio Swinburne fel Cleanthes yr ugeinfed ganrif. Casgliad Cleanthes a Swinburne yw ei bod hi'n fwy tebygol fod Duw yn bodoli na'r gwrthwynebiad. Yn ddiweddar, cawsom ymateb i Swinburne yn llyfr J. L. Mackie, The Miracle of'Theism (Gwasg Prifysgol Rhydychen 1982) a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth. Os Cleanthes y credinwyr yw Swinburne, gellid galw Mackie yn Cleanthes yr anghredinwyr. Casgliad Mackie yw ei bod hi'n fwy tebygol nad oes Duw. Mae Swinburne a Mackie yn cytuno na all bodolaeth Duw fod yn gasgliad dadl ddiddwythol (deductive argument). Mater o bosibilrwydd, felly, yw bodolaeth Duw i'r ddau ohonynt. Yn ei dderbyniad ffafriol dros ben i lyfr Mackie yn ei erthygl, 'Crefydd a Rheswm' ( Y Traethodydd, Ebrill 1984), ymddengys fod yr Athro T.A. yn cytuno y dylid trafod credoau crefyddol fel materion tebygol neu annhebygol. Dywed, 'Yn wahanol i gasgliad dadl ddiddwythol, ni ellir derbyn bod casgliad dadl anwythol yn hollol sicr o fod yn wir. Derbynnir y casgliad fel un sy'n debygol iawn o fod yn wir, ond nid yw'r tebygolrwydd yma yn ymestyn i gant y cant' (tud. 6). Ymddengys, felly, fod ffrind arall i Cleanthes gennym ymhlith athronwyr Cymru. Os mater o bosibilrwydd yw credoau crefyddol, oni ddylem ailwampio'n credoau er mwyn i'w ffurf naturiol fod yn llai camarweiniol? Oni ddylem ddweud o hyn ymlaen, 'Credaf ei bod hi'n debygol iawn fod yna Dduw hollalluog', 'Credaf ei bod hi'n debygol iawn fod yna Greawdwr nefoedd a daear', 'Credaf ei bod hi'n debygol iawn fod fy mhrynwr yn fyw', 'Credaf ei bod hi'n debygol iawn fod Duw yn maddau pechodau'. A ddengys y gosodiadau natur credoau crefyddol? Go brin. Ond yn ôl Swinburne a Roberts, dyma'r ffordd resymol i drafod credoau crefyddol. Mae'r credadun a'r anghredadun yn pwyso'r un ffeithiau. Dywed y credadun fod y ffeithiau'n dangos tebygolrwydd bodolaeth Duw. Dywed yr anghredadun fod yr un ffeithiau'n dangos annhebygolrwydd bodolaeth Duw. Beth am Mackie? Am y rhan gyntaf o'r amser, mae'n dadlau yn yr un modd. Erenghraifft, ynôl Mackie, person heb gorff yw Duw. Ymmarn Mackie,feallai fod person o'r fath; nid oes unrhywbeth annealladwy yn y fath bosibilrwydd. Wrth gwrs, casgliad Mackie yw ei bod hi'n annhebygol iawn fod yna bersonau heb gyrff. Ni fyddai'r mwyafrif o athronwyr y meddwl heddiw yn dadlau yn y fath fodd. Dywedant fod y syniad o berson heb gorff yn hollol ddiystyr. Gellid