Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cymraeg Iach 1 'DYN A'R testun. Ni wn a ddisgwylir i mi, cyn dechrau siarad arno, fynd ar fy llw i ddweud y gwir, yr holl wir, a'r gwir yn unig. Os felly yr wyf am wrthod yn bendant. O leiaf, ni chymeraf ond rhan o'r llw. Yr wyf yn fodlon i ddweud y gwir, a'r gwir yn unig, ond ar fy ngwir nid wyf am ddweud yr holl wir.' Felly yr agorodd Ifor Williams ysgrif agoriadol ei gasgliad cyntaf o ysgrifau, Meddwn i. Yr wyf innau'n barod i arddel y geiriau yn ddechreuad i'm hysgrif innau heddiw. Pan oeddwn yn sgrifennu beth amser yn ôl i'r Faner (13 xi 1981) am 'John Morris-Jones a Chymraeg da' ni cheisiais ddweud yr holl wir, ond nid celwydd mo hynny gan imi ymgyrraedd at gyflwyno hanfodion y gwir; a'm pwrpas wrth sgrifennu hyn o ysgrif yw ceisio ychwanegu rhywfaint at y gwir rhannol y ceisiais ei fynegi y tro hwnnw. I roi enghraifft o'm methiant i ddweud y gwir i gyd fe feirniedais Bedwyr Lewis Jones am 'gyfrannu at y beirniadu annheg a difeddwl' ar John Morris-Jones ond ni chyfeiriais fel y dylaswn i fod yn gwbl deg at ei ganmoliaeth o waith John Morris-Jones yn Gwýr Môn. Eto i gyd y mae'n ddigon amlwg nad oedd yr hyn a wnaed yn 1979 yn newid yr hyn a wnaed yn 1981. Yr wyf i yn ei hystyried yn ffaith bwysig eithriadol ei bod yn boblogaidd heddiw ddilorni John Morris-Jones, a hynny heb byth drafod dim penodol yn ystyriol a theg; a'm barn i ydyw ei fod o'r pwys mwyaf ein bod yn newid yr hinsawdd feddyliol McCarthyaidd hon. Gwn wrth gwrs nad yw pobl oleuedig fel Bedwyr Lewis Jones yn cynrychioli'r hinsawdd hon. Eto i gyd rhy hawdd yw plygu i drefn y rhagfarn, a chyfrannu drwy feirniadu'n annheg i dwf hinsawdd o feddwl yn anfeirniadol ragfarnllyd boblogeiddiol am ein hiaith -craidd cysegredig ein diwylliant a'n cenedligrwydd. Y mae'r hinsawdd y mae ieithyddion Cymraeg yn ei magu yn gysylltiedig, wrth gwrs, â barn boblogaidd ieithyddion Lloegr. Dyma a sgrifennodd Jean Aitchison yn ddiweddar yn Language Change: Progress or Decay? t. 27,- A grammar such as Lowth's (gramadegydd o'r ddeunawfed ganrif), which lays down artificial rules in order to impose some arbitrary standard of 'correctness', is aprescriptive grammar, since it prescribes what people should, in the opinion of the writer, say. It may have relatively little to do with what people really say, a fact illustrated by a comment of Eliza Doolittle in Bernard Shaw's play Pygmalion: 'I don't want to talk grammar, I want to talk like a lady. 'The artificial and constraining effect of Lowth's pseudo-rules might be summarized by lines from the Beatles' song 'Getting Better': I used to get mad at my school the teachers who taught me weren't cool holding me down, turning me round, filling me up with your rules The grammars and rules of linguists, on the other hand, are not prescriptive but descriptive, since they describe what people actually say. For linguists, rules are not arbitrary laws imposed by an external authority, but a codification of subconscious principle or conventions followed by the speakers of a language. Nid oes rhaid ond darllen llyfr Aitchison, a'i ddadlu arwynebol, a llyfrau ieithyddol eraill, i weld pa mor ddwfn y gwreiddiwyd rhagfarn yn Lloegr gyfoes