Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Tair Stori Fer o Lydaweg Ronan Huon 1 LLYGEDYN O HAUL Ffroenodd y Person yr awyr. 'R oedd gwynt sebon a phapur yn gymysg yn y stafell wely. 'R oedd y golchon sebon ar y ford ymolch o hyd, ar ôl iddo eillio'i farf y bore hwnnw. 'Fu na ddim hwyl glanhau arno'r pryd hwnnw nac yn ddiweddarach chwaith. Twriodd ymysg y dalennau ar y ford o'i flaen, rai ohonyn nhw wedi hanner eu gorchuddio â'i lawysgrifen fân a phigfain. Rhuglodd y -ffenest gydag awel o wynt, edrychodd drwy'r cwareli bach. Yr ardd, twr yr eglwys, blaen croes y fynwent uwchben to'r ysgol, a'r ochr arall i'r wal, y rhostir tawel a gwag a wnâi iddo deimlo'n fwy cartrefol. Plygodd ei ben dros ei bapurau, sgrifennodd ychydig syniadau a ddaethai i'w feddwl wrth ddarllen ei Iyfr gweddi cyn cinio. Cododd, a mynd at ford y gwely i hercyd ei lyfr nodiadau a ddefnyddiai i gofnodi'r meddyliau a ddeuai iddo yn aml pan na allai gysgu. Byddai'n paratoi ei bregethau drwy'r wythnos ar ei hyd. Yn sydyn, clywodd gloch fach y drws. Cododd ei ben o'i waith a gwrando'n astud ac yn eiddgar, nes y teimlai 'i galon yn curo o'i fewn: rhywun yn dod i'w ymofyn neu i'w weld, neu i ofyn am ryw gyngor neu'i gilydd ganddo? Gwichalodd y drws wrth agor; fe fyddai'n rhaid ei godi ryw ddiwrnod, rhwbiai ormod yn erbyn llechi anwastad y llawr. Meddyliai hynny bob tro y byddai'n ei glywed. Ond gohiriai ei drin yn feunyddiol. Felly hefyd gyda'r cwt ieir y dwedodd Mari wrtho unwaith eto amser cinio am ei drwsio. "Hylo, Mari!" meddai llais garw, "'d yw'r Person ddim gartre?" "Ydi, ydi!" atebodd Mari wrth ddod ar bwys ei ffon o'r gegin i'r cyntedd. "Chi sy'na, Jan?" "Wedi dod i lyfnu dipyn ar Barc y Lluest 'rwy' i. 'D yw hi ddim gwerth tarfu arno wrth ei waith, sbo. Dim ond galw i roi gwybod iddo. 'R oen ni wedi trefnu." "Iawn," meddai'r forwyn, "pan fydd y gwaith ar ben fe ddewch chi i gael diferyn o seidr gydag e." "Iawn 'te, fe'ch gwela'i chi maes o law!" Caeodd y drws. Clywid swn clocsiau'r ffarmwr ar y trothwy, ac wedyn, rai Mari'n mynd yn ôl i eistedd wrth ffenest yr ardd. Edrychai'r Person ar y coed pêr. Byddai'n rhaid eu tocio mewn pryd eleni, a byddai'n beth call gweld a oedd eisiau newid cwareli yn y ty gwydr hefyd cyn iddi oeri'n ddifrifol. 'R oedd y pridd yn ddiffrwyth. Mynd i'w ddwrhau? I beth? 'R oedd yn rhy wlyb 'ta beth. 'D oedd e ddim yn gweithio 'nawr. 'Allai fe ddim gweithio. 'D oedd y syniadau ar gyfer ei bregeth ddim yn dod iddo. 'R oedd rhai eraill fodd bynnag Sawl bedydd a weinyddasai ers iddo gael ei ddanfon i'r plwyf gan ei esgob? Dau. Dim un briodas, dim un angladd, gwenodd wrth feddwl hynny. wrth gwrs 'd oedd e ddim yn dvmuno cael angladdau, ond dyna oedd ei waith. Ei waith, neu ei ddyletswydd yn hytrach oedd cyfranogi o boen y bobl, eu calonogi, eu cysuro