Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pontio'r Canrifoedd mewn Brawddeg GWEDD AR GYFRANIAD YR ATHRO J. E. DANIEL I DDIWINYDDIAETH CYMRU1 I BAWB a'i hadwaenai 'roedd yr Athro Daniel yn wr o allu rhyfeddol. 'Roedd ei yrfa ddisglair yn Rhydychen yn brawf digonol o hynny. Rhwng 1922 a 1925 cafodd ddosbarth cyntaf mewn 'Classical Moderations', Litterae Humaniores a Diwinyddiaeth. A chyda pherffaith gyfiawnhad y dywed y Prifathro R. Tudur Jones wrth gyfeirio at y cyflawniadau academaidd hyn: 'Yr oedd yn gamp bur anghyffredin.'2 Fe'i penodwyd yn Athro ym Mala-Bangor ym 1926, ac yno y bu hyd ei ymddiswyddiad ugain mlynedd yn ddiweddarach. Ei faes oedd Athrawiaeth Gristionogol. Dywedodd John Morgan Jones, Prifathro'r Coleg y cyfnod hwnnw, wrth fwy nag un am ei athro-cynorthwyol, "Wyddoch chi, 'does dim rhaid i hwn ddarllen llyfrau. Mae'r cwbl ganddo'.3 Addefa'r Athro Daniel mai'r 'Draddodiadaeth Newydd' oedd ei safbwynt diwinyddol;4 safbwynt a gysylltir ag enw Karl Barth. Fodd bynnag, prysurwn i ddweud nad oedd yn ddilynwr slafaidd i'r safbwynt hwn. Gallai feirniadu Barth yn bur lym am rai o'i oblygiadau, yn arbennig gorbwyslais Barth, yn ei dyb ef, ar drosgynoldeb Duw. Canlyniad ei safbwynt diwinyddol arbennig oedd ei fod am y pegwn eithaf â gogwydd diwinyddol ei ddydd. Tynnodd sawl nyth cacwn am ei ben drwy ei anerchiadau tanllyd, a'i feirniadaeth diflewyn-ar-dafod o'r ddiwinyddiaeth ryddfrydol. Deuai David Adams a Miall Edwards dan ei lach am iddynt fynnu gwneud 'profiad crefyddol' ac nid Gair Duw yn brif gonsarn diwinyddiaeth. Ac er mwyn adfer diwinyddiaeth o fod yn ddim amgen na gwedd ar anthropoleg, heriodd ei gyd-genedl- Safwn yn y llinell sy'n arwain o'r Testament Newydd trwy Farcion (gyda gwyriad bychan), a Thertiwlian, ac Awstin a Sant Bernard a Luther a Chalfin a Kierkegaard a Barth.) I'r Athro Daniel dyma'r llinell a ddiogelodd yr Efengyl. Yn rhifyn Mehefin o'r Efrydydd am y flwyddyn 1929 ymddangosodd adolygiad ganddo ar lyfr Karl Barth, 'Gair Duw a Gair Dyn'. Darllened y cyfarwydd yr adolygiad drwyddo ac fe'i caiff yn enghraifft dda o'r hyn y cyfeiria'r Prifathro R. Tudur Jones ato pan ddywed am yr Athro Daniel, ei fod 'yn pontio'r canrifoedd mewn brawddeg, ac yn cyfosod y cenedlaethau mewn epigram'.6 Dyma ddweud campus gan un a fu ei hun yn fyfyriwr ym Mala- Bangor yng nghyfnod vr Athro. Ni ellir wrth eiriau mwy cyfaddas: crynhoant ehangder, gwelediad a phraffter meddwl yr Athro Daniel i'r dim. Amlyga'r adolygiad hwn o'i eiddo y 'ddawn braidd gyffwrdd' a nodwedda ei gynnyrch Henyddol prin, ond hynod werthfawr. Gesyd arddull o'r fath dreth ar allu meddyliol y sawl a efryda ei waith. A hawdd iawn yw i ergyd ac amcan sawl brawddeg a ysgrifennodd fyned i golli. Gresyn ydyw hynny gan bwysiced ei gyfraniad i'r drafodaeth ddiwinyddol yng Nghymru. Saif un frawddeg o'r adolygiad hwn yn enghraifft o hynny. Codaf y frawddeg yn ei chrynswth,