Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiad DEREC LLWYD MORGAN, Williams Pantycelyn, yn y gyfres Llên Y Lienor (Gwasg Pantycelyn, Caernarfon, 1983), tt. 66. Pris: £ 2.50. DAI R blynedd yn ôl cododd un o gewri ysgolheigaidd Cymru ei lais a rhoi mynegiant yn gyhoeddus i'w bryder a oedd yn ofid yn ogystal i nifer helaeth o'i gymheiriaid academaidd, ac eraill- fod 'y Saesneg yn ennill tir ar y Gymraeg fel iaith trafod ein llên'. Pwysleisiodd 'na fu hyn yn wir erioed yn hanes y Gymraeg o'r blaen', a mynd ati felly i sefydlu cyfres newydd o lyfrau â'u hamcan o roi portread inni yn y Gymraeg o'n prif lenorion. Profodd y gyfres raenus ac ysgolheigaidd Saesneg, Writers of Wales, yr angen am gyfrolau bychain hwylus yn cloriannu bywyd, gwaith a chefndir ein beirdd a'n nofelwyr a'n dramodwyr, ond bellach, wele'r Athro Emeritws J. E. Caerwyn Williams yn denu rhai o'n beirniaid llenyddol gorau i sgrifennu am wrthrychau eu hysgolheictod, o dan ei olygyddiaeth ef, yn eu mamiaith. Ffrwyth pryder a gofal yr Athro yw'r gyfres newydd Gymraeg hon, Llên Y Llenor. Troes yr Athro Williams at un o'i gyn-fyfyrwyr, y Dr. Derec Llwyd Morgan, am awdur i gyfrol gynta'r gyfres. Williams Pantycelyn yw'r teitl- ni ellir addasach nac anos testun, gan fod y gorchwyl o fesur athrylith anhraethol ac anghyson Williams yn ei aml agweddau ac yn ei gyd-destun yn hawlio galluoedd beirniadol craff a threiddgar. Ystrydebol braidd, os nad gwenieithol ffuantus ar adegau, yw dweud mewn adolygiad fod awdur portread llenyddol wedi'i drwytho yng ngweithiau'i wrthrych ac yng nghefndir y gweithiau hynny. Yn yr achos hwn, gellir datgan yn ddibetrus mai dyna'r gwir yn symlacyn blaen, sef bod y Dr. Derec Llwyd Morganyn feistrary cefndir hanesyddol, diwinyddol a llenyddol yr oedd Williams yn rhan ohono, yn ogystal â bod yn awdurdod ar weithiau'r Pêr Ganiedydd ei hunan. Gwnaeth Fethodistiaeth, ac yn neilltuol, weithiau Williams yn faes iddo'i hunan yn ogystal â'i gampau ysgolheigaidd eraill ac mewn erthyglau o 1970 ymlaen, ac un llyfr tra nodedig, traethodd am natur ganolog y profiad llwythol Fethodistaidd, am bwysigrwydd llenyddiaeth fel offeryn achubiaeth yn ystod y Diwygiad Mawr, am wahanol ffurfiau'r llenyddiaeth honno a'i hawduron, ac yn enwedig am gynnwys ac arddull gweithiau Pantycelyn. Yn ddiamau, uchafbwynt y gweithgarwch beirniadol ac ysgolheigaidd hwn oedd cyhoeddi ar ddiwedd 1981 ei 'astudiaeth orchestol' ar Y Diwygiad Mawr. Macrocosm oedd y llyfr, i'r hwn y mae Williams Pantycelyn bellach yn feicrocosm, oblegid yn y llyfr hwn, oddeutu tt. 111-118, gwelir y ddamcaniaeth, sy'n brif thesisW llyfryn yn ymgyweirio, sef fod Pantycelynyn Dad Awen Adnabod, a hynny, yn y lle cyntaf, i'r gymdeithas a'i creodd a'r gymdeithas y mae yntau yn enau iddi, ac wedyn yn esiampl i'r llenorion modernaidd eraill a oedd i'w ddilyn, o lenor a fedrai seicdreiddio a phlymio'n eneidegol. Gyda'r fath gynhysgaeth o wybodaeth, a'r fath afiaith dros ei destun, nid yw'n syn mai nodweddion amlwg y llyfryn hwn yw ei graffter beirniadol, ei fanyldeb, ei ddyfyniadau pwrpasol o bob cwr o weithiau'r Pêr Ganiedydd, a hwyl chwaethus yn yr ysgrifennu. Hoffwn dynnu'ch sylw at dair enghraifft drawiadol o fywiogrwydd yr arddull. Yn gyntaf, o'r adran ragarweiniol (tt. 3-17). Diben yr adran gychwynnol hon yw darlunio Pantycelyn fel cawr llenyddol nad yw pwrpas ac ystyr ei weithiau i'w deall ond yng nghyd-destun y Diwygiad Mawr. Adlewyrchir yr ymdrech i gloriannu ei fawredd a natur ei weithiau gan gynifer yr epithetau a roddir arno yn y tudalennau cyntaf: llenor arloesol (t.3); chwyldroadwr, artist chwyldroadol (t.4); genau y Diwygiad Methodistaidd (t.8); cantor seiat y werin bobl (t.5); Tad Awen Adnabod (t.5); genau y Diwygiad Methodistaidd (t.8); rhagredegydd y nofel ymchwiliadol (t.8); artist seiatgar effro (t. 10); athro llen (t.16), a chrefyddwr chwyldroadol (t. 1 6). Ond at hyn yr oeddwn yn anelu, sef at y disgrifiad o'r cawr o lenor chwyldroadol cyflawn hwn sy'n ganolbwynt disgyrchiant i'r adran gyntaf hon: Y mae ef yn nawnddydd ei yrfa lenyddol fel Colosws, a'i gamau breision yn ei arwain i derfyndiroedd o brofiad a brafado nad aethai neb arall o'i genhedlaeth ar eu cyfyl, terfyndiroedd y gwelodd luniau rai ohonynt ar fapiau'r Beibl, arweinlyfr cyson ei dramwyad. (t.I5). Y mae afiaith yr arddull yn amlwg. Sylweddolodd y beirniad llenyddol hwn fod y fath ysgrifennu yn gweddu i'r dim mewn llyfryn portreadol. Hoff iawn gennyf hefyd y disgrifiad o natur ddeublyg y pechadur pennaf hwnnw, Theomemphus: