Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerddi ALBATROS CRWYDRAD 1 O'i gwsg yr aeth ei gais ar grwydr o'i grud, fel aderyn o ofal deoriad gwely a nyth y creigle noeth, a'i fudo yno a brofai ei adenydd yn ddiwyd ei awch ym moroedd y de: Anian yn ymado'n gyffro o'i gorff, o gawell y gaeaf, am obaith ymdeithiau o'i fodd, ac a fyddai'n ddiaros ac yn ddiorwel. 2 Cael yr enciliad yn drem ar dramwy a'i synnai â'i ias unwaith- trem ar albatros a'i hyder uwch meithder y môr: Roedd ei gorff yn llacharedd gwyn, a lliw egr y llygaid yn wawl o felyn. Ei goesau a hynt ei big a âi â sêl meinwe o liw ymenyn, traed gweog yn gordeddog â'i din o'i ddirnad ar adain, esgyll gwineulwyd eu hosgo, yno o dan ei adenydd a her ei frest fel eira ar fron,