Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

IAITH POEN Crea gofid ac argyfwng oriau o boen iaith arbennig; iaith hirbin y loes a wthia'r ben-lin dynn hyd ên, a iaith bilwg ing cignoeth a blŷg wr yn filain, grwm fel yn y groth. Uwch brys llenwi gwythien, egni ffrwd ocsigen i ffroen, ei ddolef gyntefig fel blaidd a esgyn ac fel bloedd esgor yw ei lafa eirias o lafariaid. Ar wib i'r theatr, â brath ei wayw'n nadau unsill o densiwn; geiriau gwae a rwyga'r geg ar agor a dipthong wenfflam sy'n hongian yn nos y gri ddi-gytsain a'r sgrech. Nid yr un, fore drannoeth, lythrennau'i heniaith ef wedi'r driniaeth ofer eto ar gorff fel ty oer gwag wedi'i losgi'n blisgyn, a thiwb ar diwb o bibellau diobaith ar ôl lle methodd diffoddwyr. Baich yw ebychiad caled, a soled yw swn ail-eni gair ym merw pair poeryn; swn gwrywaidd yn y gwddf fel atsain gwreiddiau hen goed yn rhegi brad eu rhwygo o bridd. Cloi am ei ofid mae cwlwm ei wefus, ymwthia'r tafod i geisio datod ofn, ac eco milain cytseiniaid fel llwon y don pan frwydra'r dannedd i gnoi'i gyni oer. Gwanha'r ymdrech i frathu'r ing nes ciliodd ef a fu'n croesi cleddyfau â dihiryn y boen, dirwyn i ben y dyddiau hir,- diwedd iaith. EMRYS ROBERTS