Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYD-DEITHWYR Fe ddaethant 'r hyd y trên, ac at y sedd Oedd am y bwrdd â mi, efe y gwr Yn cario'r cês, yn lân gysáct, yn hynod Siarp o'i oed, tu ôl i'w wraig dagellog A oedd fel Margaret Rutherford ail-radd Yn bwysig iawn (er bod ei thagell hi'n Amddifad o athrylith). Eisteddodd Wrth y ffenestr a fframiai Gonwy i gyd, A dechrau sôn am Maidenhead a Bath, Y bu'n ymweld â hwy yn nyddiau'ì waith, Ac fel yr oedd yr hydreiddiol reilffordd Hon a'i hamserlenni gynt yn batrwm O ddisgyblaeth. Nid oedd y trên hwn, chwaith, Yn hwyr, ebe hi. Estynnodd becyn Sigaréts o'i bag, ac anwybyddu'i Sgwrsio cynlluniedig dyfal ef: Dangosodd iddi ffordd y draffordd hardd; Dangosodd iddi gefen ty rhyw ffrind Y bu'n ymweld ag ef un waith, a'i ffin Yn awr yn gloddfa goncrit ddofn gan Laing; Dangosodd iddi gledrau'n llwyth gerllaw;- Edrychais i bob tro, tra smociai hi. Yr oedd dieithrwch rhyngddynt, llwyd ac oer, Dieithrwch fel rhwng pâr na fu erioed Yn un, rhyw ias o ail briodas hwyr A drefnwyd mewn rhyw glwb i estyn gwerth Rhyw bensiwn pellgyrhaeddol 'ddaeth i'w oed. Agorodd glawr, parablus liw, ei llyfr; A hyd yn oed pe troesai'r lein, drwy wyrth, Yn un o'r efengylau, nid agorai mwy Na'i chlyw na'i chalon i'w esboniad da Ef arni. Yna, 'r ochor draw i'r Rhyl, Hi aeth â'i thlysau oll y ffordd y daeth, Heb ddwedyd gair. Plethodd ef ei fysedd Pwyllog dan ei ên, a chytûn-redeg Y rhai blaen o'r canol hyd ymylon Manwl ei fwstásh, yn rihyrsiedig Wych, yn gras yn ôl, yn llyfn ymlaen. Ond Dacw'i wraig yn dod â choffi i'r ddau A hufen British Rail, a pheidiodd ef. "What a very clever girl you are, my dear!" Yr oedd mor ddifalais, mor ddiolchgar. Bu'n rhaid i mi eu gadael yn y Fflint, Ei adael ef â'i foes, hyhi â'i mwg, Yn gymaint rhan o Walia Wen â mi. DEREC LLWYD MORGAN