Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dioddefaint Creadigol Nofelau Harri Williams YR OEDD y diweddar Barchedig Athro Harri Williams yn ddarllenwr mawr ar nofelau. Darllenodd lawer o nofelau clasur Ewrop. Ar un o'i ymweliadau diwethaf â ni fe ddywedodd mai ei hoff nofelydd cyfoes oedd Iris Murdoch; ei nofel ddiweddaraf hi fyddai anrheg ei deulu iddo ar ei ben-blwydd neu'r Nadolig. Pan ddywedais mai ychydig iawn o flas yr oeddwn i wedi'i gael ar ei gwaith, gwenodd yn siriol; nid oedd clywed barn lai deallus ar waith ei ffefryn yn syndod iddo, mae'n amlwg. Gan mai athronydd yw Iris Murdoch wrth ei swydd, nid yw'n syndod fod yr athro o Gymro, a'i ddiddordeb dwfn yntau mewn athroniaeth, yn cael boddhad arbennig yn ei phortreadau hi o gyflyrau dyn. Ond nid mewn nofelau Saesneg a chyfieithiadau o'r clasuron yn unig y byddai Harri Williams yn pori. Byddai'n prynu nofelau Cymraeg yn gydwybodol ac yn cael blas ar drafod y rhai diweddaraf. Ni fyddai byth yn collfarnu'n ddogmatig nac yn canmol yn eithafol, ond os oedd nofel Gymraeg newydd wedi'i blesio ni fyddai'n grintach ei glod iddi. Yr oedd mawrfrydedd a pharodrwydd i ganmol yn un o'i nodweddion mwyaf deniadol. Awgrymais nad oedd ei farn ar lyfr byth yn ddogmatig. Fe fyddai, bid siwr, yn bendant ei farn ar gyfrol o ddiwinyddiaeth neu athroniaeth crefydd, ac ar gofiant neu lyfr taith. Ond maes gwahanol oedd llenyddiaeth greadigol. Byddai'n ofni gwneud cam ag artist, beth bynnag ei gyfrwng. Felly, os oedd newydd ddarllen nofel neu ddrama neu gyfrol o farddoniaeth, byddai'n hoffi cael barn darllenwr arall ar y gwaith, yn enwedig un a ystyriai ef yn dipyn o awdurdod ar y genre. Byddai ganddo farn ddigon solet, fodd bynnag 0 leiaf iddo'i hun ar nofel glasur a oedd wedi'i hir gloriannu gan feirniaid ac wedi gwrthsefyll rhwd y blynyddoedd. Digon tebyg mai'i farn ef sydd yng ngeiriau'r gwr ifanc afiach, Gwilym, yn ei nofel gyntaf, Ward 8: Bûm yn darllen llawer heddiw ar The Possessed. a'r argyhoeddiad yn cynyddu ynof mai Dostoiefsci yw nofelydd mwya'r oesoedd. Y mae'n treiddio'n ddyfnach i ddirgelwch y bersonoliaeth na Tolstoi, ac yn darlunio cymhlethdod bywyd cymdeithasol yn fwy realistig. Anaml y ceir nofelydd yn trin problemau cymdeithas a'r un pryd yn gallu bod yn dreiddgar ei ymdriniaeth o'i gymeriadau unigol. Zola, er enghraifft, yn wych yn y naill, ond yn wan yn y llall. Ond dyma Dostoiefsci yn dangos yr un treiddgarwch gyda'r ddau beth. Cyn iddo ddechrau sgrifennu nofelau ei hun, felly, yr oedd wedi sylwi'n graff ar dechneg storïol, arddull, dialog a dulliau cymeriadaeth mewn nofelau enwog a rhai dinod. Wrth lunio pob un o'i nofelau fe wyddai'n iawn beth yr oedd yn ei wneud. Nid oedd mawredd y nofelwyr mwyaf yn ei ddantio; fe wyddai'n iawn na fedrai gystadlu â'r rheini, ac nid oedd yn uchelgais ganddo fod yn nofelydd mawr. Yr oedd ganddo rywbeth i'w ddweud, ac fe'i dywedai orau y medrai. Ond nid yw gwybod gormod am grefft nofel yn help i hunanhyder rhywun sy'n mynd ati i sgrifennu nofel ei hun. Dyna pam, efallai, y mynnodd Harri Williams anfon pob un o'i nofelau i gystadleuaeth yn gyntaf. Ni fyddai'n debyg o gael barn ddiduedd ar ei waith gan gyfaill wyneb yn wyneb, ac ni fyddai'n deg gosod cyfaill mewn sefyllfa anghysurus o'r fath. Fel yna, yn siwr, y buasai'r gwr anrhydeddus hwn yn ymresymu. Yr oedd