Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfraniad Diwinyddol Harri Williams PAN ddaeth y cais am gloriannu cyfraniad diwinyddol Harri Williams, 'roeddwn, ychydig ddyddiau ynghynt, wedi gorffen darllen ei nofel olaf, Mam a Fi. Er bod hyn yn cyffwrdd â'i gyfraniad llenyddol, 'rwy'n tybio bod yma fan cychwyn i ymdriniaeth â'i ddiwinyddiaeth. Pan gofiwn fod Mam a Fi yn hunangofiannol, fe welwn mai'r cwestiynau y bu Harri Williams yn ymdrin â hwy fel diwinydd ac athronydd oedd y cwestiynau a godai'n gynnar iawn ym meddwl Benji a hynny ar gefndir lle'r oedd capel ac addoli'n ganolog. Fe geisir dangos hynny gydag enghraifft neu ddwy. Mae Benji wedi dechrau mynd i'r capel ar nos Sul, ac meddai, 'Ond y noson dw i'n gofio ora wnai byth i anghofio hi wir -oedd pan ddigwyddodd coblyn o row'1. Yr arfer ar nos Sul oedd cyfeirio at fechgyn a oedd yn y rhyfel, yr hogia dewr a oedd yn 'y drin', 'ac ambell gethwr yn sôn amdanyn nhw fel "milwyr Iesu Grist" '2. Ond daeth pregethwr o Fangor i'r capel a dweud bod rhyfel yn groes i ysbryd Iesu Grist ac nad oedd a wnelo cariad ddim â lladd, A dyma Mistar Robaits, hwnnwsy'n dod i'r Band o Hôp, i siarad arddirwest, yncodi'n sydyn yn y sêt fawr, yn codi'i ddwrn ar y pregethwr, ac yn cerdded allan Fe ddilynwyd Mr. Robaits gan eraill. Mae'r darn yma o'r nofel yn cloi â chyfeiriad at Nain a theimlwn fod ei gair hi ar y mater yn derfynol i feddwl Benji, "Mae isio rhoi stop ar bob rhyfal". Dyna'r cwbwl ddeudodd hi.'4 Nid dyma'r peth olaf sydd gan Harri Williams i'w ddweud am ryfel, oherwydd wrth drafod 'Y Cristion a'i Wlad' yn y llawlyfr Ein Ffydd Heddiw mae'n cyffwrdd â phroblem y Cristion mewn perthynas â rhyfel. Mae'n gwneud hynny'n llawnach yn 'Dyn a'i Wladwriaeth', nawfed bennod y llyfr Duw a Phob Daioni. Carn llawer o bleidwyr achos Rhyfel 1 939-45 oedd Reinhold Niebuhr sy'n destun ymdriniaeth yn Oni Threngodd Duw?, 'Niebuhr a Phasiffistiaeth'. Bu Benji yn Tynrhos a gweld chwaer bach Elwyn yn cael bath ac mae'n methu coelio iddo yntau fod fel y babi bach yma. Er mwyn ei ateb mae ei fam yn sôn am berthynas ceiliog ac iar, buwch a tharw, Fedar y fuwch ddim cael Uo bach, wyt ti'n gweld, heb fynd at y tarw. A mi wyddost sut mae llo bach yn dwad. Rwyt ti wedi gweld y peth droeon, yn do?5. Mae'r plentyn yn dechrau deall, ond nid dyna ddiwedd y broblem, 'A finna wedi fy nysgu yn yr Ysgol Sul mai Duw a'n gwnaeth ni'6. Ceir ymdriniaeth ar ddwy broblem gysylltiol â hyn, 'Dyn a'i Deulu' a 'Moeseg Feddygol' yn Duw a Phob Daioni. Ymhelaethiad ydynt o'r problemau a gododd ym meddwl Benji. Rhydd hyn hefyd arwyddocâd i'r ffaith mai o fyd priodas a'r darpariadau ar ei chyfer y cymerodd Harri Williams gyffelybiaeth i esbonio Duw yn creu byd ar gyfer dyn yn Y Creu a'r Cadw. Bron na allem ddweud, heb wybod hynny, mai athronydd a diwinydd yw'r awdur a barodd fod Benji yn holi fel y gwnâi, neu a'i roi o chwith, mai athronydd a diwinydd fyddai Benji ryw ddydd. Y casgliad y deuwn iddo yw bod seiliau gwaith Harri Williams fel diwinydd wedi eu gosod yn gynnar iawn yn ei fywyd. Ymateb i sefyllfa bywyd yw ei