Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Trichanmlwyddiant Geni Griffith Jones "Flwyddyn ar ôl y dyddiad A rydd holl lyfrau'r tir" Oni wyliwn hwy'n ofalus, fe brancia un hanesydd ar ôl y llall drwy fwlch mewn clawdd a luniwyd heb fawr o ofal lawer blwyddyn yn ôl. Droeon, bodlonodd gormod o gofianwyr a haneswyr, efallai, ar ail-adrodd didrugarog a dogmat- aidd, gan ymwrthod â mynd i'r afael â'r ffynonellau anghyfleus gwreiddiol. Mae Griffith Jones yntau, fel llawer un arall wedi dioddef yn sgil diffyg amynedd felly. Nid syndod yw deall, gan fod y mwyafrif o gofianwyr Griffith Jones yn y G 19 wedi penderfynu, heb unrhyw sail gadarn, mai yn 1683 y ganwyd ef, fod y rhan fwyaf o'i gofianwyr yn y ganrif bresennol yn eu dilyn ben wrth gwt. Bwriad yr ysgrif hon yw awgrymu nad felly y bu mewn gwirionedd, ac mai ym 1684 y ganwyd ef, a'n bod felly wedi brysiog ddathlu trichanmlwyddiant ei enedigaeth flwyddyn yn gynnar. Yn baradocsaidd ddigon, yr unig dystiolaeth gadarn sydd gennym ynghylch dyddiad ei enedigaeth, yw dyddiad ei farwolaeth, ac y mae dwy ffynhonnell ar gael. Yng nghofrestr plwyf Llanddowror dywedir iddo farw ar 8 Ebrill, 1761, yn 77 mlwydd oed.' Ar y gofeb iddo, a osodwyd yn eglwys Llanddowror gan Madam Bevan, fe ddywedir iddo farw yn ei 78fed flwyddyn. Prin bod angen ychwanegu nad oes anghysondeb yma, gan fod unrhyw un sydd yn marw yn 77 mlwydd oed yn rhwym o wneud hynny yn ei 78fed flwyddyn. Gellir casglu oddi wrth hynny o dystiolaeth fod Griffith Jones wedi ei eni rywbrydynystod ydeuddengmisaddechreuodd ar 9 Ebrill, 1683.2 Mae'n rhaid prysuro i ychwanegu mai'r unig sail sydd gan unrhyw un i honni mai 1683 oedd blwyddyn ei eni, yw fod siawns arwynebol yn syrthio yn fwy o blaid y naw mis ym 1683, nag y mae o blaid y tri mis ym 1684, oni bai fod peth tystiolaeth arall. Ond, tra gellir dweud ar y naill llaw nad oes tystiolaeth o blaid 1683, gellir dweud ar y llaw arall fod tystiolaeth o blaid 1684. Y cam cyntaf yw ystyried y cofianwyr a cheisio deall sut a pham y dewisodd y rhelyw ohonynt 1683. Fe ddichon mai'r ffurf hwylusaf fydd eu rhestru yn ôl eu trefn amseryddol, heb nodi ond yr awduron a'r flwyddyn a ddewiswyd ganddynt. 1752--J. Evans.— 1895-J. M.Jones&W. Morgan.-1684. 1762-H. Phillipps.- 1902-D. Jones.—1683. Summary.— 1923-0. A. Jones.-1683. 1809-T. Charles.- 1923-G. Tucker-Thomas.-1683. 1832-E. Morgan.-1683. 1930-R. T. Jenkins.—1683. 1833-J.Owen.-1683. 1930-F. A. Cavenagh.-1683. 1835-E. Harries.-1684. 1940-J. G. Tansley-Thomas.-1683. 1880-J. Peter & G ap Rhys.-1683. 1950-T. Kelly.-1683/84. 1888-T. Levi.— 1683. 1983-G. H. Jenkins.—1683.