Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

A Oedd Cwymp? BU llawer o ysgrifennu, yn ddiwinyddol ac athronyddol, ar Broblem y Drwg yn ystod y pum- a'r chwe-degau, fel y dengys y rhestr isod: Nels Ferré: Evilandthe Christian Faith (1947); A. D. Sertillanges: Le Problèmedu Mal(tair cyfrol, 1951): Friedrich Billicsich, Das Problem des Übels in der Philosophie des Abendlandes; Roger Verneux, Probleme et Mystere du Maì, (1955); Anton Boehm, Epoche des Teufels (1955); Friedrick Dessauer, Prometheus und die Welt-Ubel (1959); Nicholas Corete, Who is the Devil?( ( 1959); François Petit, The Problem of Evil ( 1959); Max Milner, Le Diable dans la Littérature Francaise (1960): Paul Ricoeur, Finitude et Culpabilitë: II La Symbolique du Mal (1960); Étienne Borne, Le Problème du Maì (1960); Das Böse in psychologischer Sicht (Studien aus dem C. G. Jung-Institut, Zurich, 1961); Jacques Maritain, Dieu et le Permission du Mal (1963); John Hick, Evil and the Love of God (1963); A. M. Farrer, Love Almighty and Ills Unlimited (1962): Charles Journet, Le Mal (1961; cyf. The Meaning of Evil, 1963); G. Zacharias, Satanskult und Schwarze Messe, (1964 'Y Cwlt Satanaidd a'r Offeren Ddu') E. H. Madden a P. H. Hare: Evil and Concept of God (Springfield, U.S.A., 1968). (Das Böse, Übel. le Mal = Y Drwg). Dengys yr ysgrifau hyn, sy'n delio â'r broblem o wahanol safbwyntiau (y rhai Catholig ac eithrio cyfrolau Sertillanges, o dan ddylanwad Tomos o Acwin), pa mor astrus a pha mor anodd, bellach, yw ei datrys yn foddhaol. Problem, neu'n hytrach dirgelwch, ydyw sy'n osgoi pob ymdrech i ddod i'r afael â hi. Gellir dadansoddi'r 'Drwg', ei ddisgrifio mewn termau ymarferol a dirfodol; hynny yw, gellir ei drafod yn ffenomenolegol a diwinyddol; ond parhau i'n herio y mae. Y symbol Beiblaidd o'r hyn a olygir gan y broblem yw stori'r Cwymp, ac er mai digon prin yw cyfeiriadau ato ef ac at 'bechod gwreiddiol' yn yr Ysgrythurau, mawr fu dylanwad y stori ar y meddwl Cristnogol. Yn yr ysgrif hon (a gyhoeddwyd ac eithrio ychydig o ychwanegiadau yn The Listener, Awst 5, 1965 fel y gyntaf o ddwy sgwrs ar Broblem y Drwg ar Drydedd Raglen y B.B.C.), ceisiaf ymdrin ag un agwedd o'r pwnc, a hynny, gobeithio, yn wrthrychol. Gan amlaf fe gyrraedd trafodaethau ar y ddysgeidiaeth am y 'Cwymp' a 'Phechod Gwreiddiol' un o ddau gasgliad. Naill ai 'myth' pur yw Genesis 3, ac oblegid hynny nid oes sail i'r syniad am 'gwymp' fel digwyddiad o fewn hanes, ynteu symbol ydyw o'r hyn a ailadroddir yn barhaus ym mhrofiad pob unigolyn a chenhedlaeth. Fe ddichon fod yr ail yn gywir, ond braidd y gellir honni i sicrwydd mai dyna oedd bwriad gwreiddiol y stori (neu 'saga' fel y geilw Karl Barth hi), er nad yw'r fath ddehongliad yn anghyson â'i chynnwys. Yn ôl y ddau ddehongliad, naill ai gadewir Genesis 3 o'r neilltu fel ffug-hanes neu ei throi yn fetaffor o rywbeth gwahanol i'r bwriad gwreiddiol. Nid yn aml yr ystyrir o ddifri y posibilrwydd y gall y myth fod yn amgenach na ffug-hanes yn unig na dim mwy, sef fel datganiad trosiadol o gyflwr dyn yn gyffredinol, a chan hynny ac Iddo oblygiadau dirfodol, ac odid, fel y dywed John Wren Lewis, nad un canlyniad i 'ddeongliadau "hanesyddol" o'r ddysgeidiaeth am y Cwymp yw gwthio'r broblem ymhellach yn ôl ac mewn ffurf fwy dyrys fyth.'1 Ni chredaf fod modd osgoi'r anhawster hwn drwy hepgor y dehongliad 'hanesyddol' yn unig, hyd yn oed os newidir y term hwnnw i 'fytholegol' neu 'gyn-hanesyddol'. Fe erys yr elfen amseryddol, er nad yw'n bosibl manylu arni a'i rhoi ar gof a chadw fel digwyddiad arbennig. Chwedl Mr. Wren-Lewis (ac yntau'n wyddonydd), er nad ymadawsom â rhyw gyflwr diniwed gwreiddiol a