Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerddi Y TANGNEFEDDWYR M. K. GANDHI Dim byd ond corffyn bregus mewn cadachau gwynion, hanner noeth a hanner pan yng ngolwg doethion y Gorllewin, heb iddo degwch pryd, yn ffigur mewn cartwn, yn sbort a sbri. Dim byd ond cri o galonnau mud y miliynau i gyfeiliant yr apocalups, yn fellt a tharanau, yn ddydd braw i'r cenedlaethau Ewropeaidd. Craciodd y cadernid, siglwyd y muriau moethus gan efengyl Satyagraha. Arafodd holl orymdaith y concwerwyr gwarsyth, trawyd tempo cynhebrwng yr Ymherodraeth, wrth wys aruthr nwyd yr Eneidfawr hwn. Mab y Daran a bloedd iasol i'w bobl; gwyrth enaid o amynedd yn Fab Tangnefedd o flinder y Gaethglud Affricanaidd hyd arswyd carcharau'r India. Fflam yr hyder i blant y gorthrwm ym mhanorama dioddefaint y Gwrthodedig Rai, ac olwynion Ffawd am wasgu am dreisio am ddileu gobaith am yfory gwell. Lladmerydd efengyl eirias addewid yn drech na fflangell a phastwn.