Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

WALDO WILLIAMS Bendigeidfran dydd ein gofidiau a thramwywr ffordd tangnefedd, llysgennad y Brenin Alltud. Cawsom wefr a chynnwrf o'th adnabod yn niddanwch ein llên; y brawd llawen ei barabl yn nwyster ei awen fawr. Bugeiliaist dy ddoniau dros erwau'r Preseli, ym mlynyddoedd y cymundeb â'r pridd annwyl, i gorlan y gymdogaeth dda. Bu ysgwyddau'r mynydd hen yn gadernid i'th ysbryd yn nydd y gwrthsefyll, yn y Gymru gyfforddus ddof. A'r criw parablus ar gae gwair yn gynulleidfa ym mhresenoldeb y Goleuni. Heriaist mewn addfwynder yn unigrwydd y barrau heyrn, ac ni allodd carchar grebachu eangderau maith dy ffyddlondeb i'r brodyr lleiaf. Rhoddaist fflam i gynnau ar allorau annisgwyl. Buost ti'r Crynwr yn dad enaid i genedlaethau eiddgar, yn eirias am y dreftadaeth a'r cwmwl tystion. Clywaist ergyd y drysau'n cau, ond nid yw'r Goleuni'n gaeth i garchar. Cerddodd grymusterau dy amcanion i mewn i'r ystafell ddirgel yng nghof dy genedl. Gyfaill plant bach o'r rhengoedd Pabyddol, bu dy fyw yn bregeth. Plygaist yng nghwmni'r rhai addfwyn a fydd yn etifeddu'r ddaear. Gwelsom olau tanbaid dy gariad yn ddawn i buro- yma, yng Nghymru, ac i bellafoedd byd. ALUN PAGE