Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SIMONE WEIL Tras dioddefwyr Caethglud Babilon sydd iddi. Llef rhai yn llefain yn niffeithwch y canrifoedd, cyfryngau golau'r Saith Ganhwyllbren Aur. Ond bod ynddi oludoedd dysg y Sorbonne a'r ymennydd llym. Ni allodd hon erioed wneuthur dim ond dilyn y peth cyflawn i'r pen draw. Derbyniodd yr her a rhodio'n eofn ar hyd palmentydd grisial athroniaeth. Ond ceir ynddi gwlwm mwy dyrys, a'r ddawn i uniaethu yn arwain i leoedd anghyfannedd; i'r ffyrnigrwydd yn Sbaen a'r oriau diflas yn uffernau technegol y ffatri. Cerddodd y llwybrau dwys a'r ymennydd yn pwyso a chyfrif y gost. Ond mynnodd dreiddio dros riniog y dirgelwch mwy o gyfandir cudd yr enaid Bu'n aros y wys oddi uchod yn aflonydd, oblegid llosgodd ynddi'r awydd i weld y Brenin yn ei degwch, ac ymhen y blynyddoedd daeth diddanwch y Cyfamod Hedd. Onid hon oedd y cyfrwng, y gloch a ganai i'n deffro? I arwain mor ddewr at yr anesmwythyd sanctaidd, a'r hiraeth am y gwreiddiau sy'n cynnal a chadw. Oni fu radiwm ei gweledigaeth yn llewyrch yn disgleirio mor dawel ynghanol ein nos? Oni ddaeth Doethion o'r Gorllewin ar hyd ffordd mynegbost ei gwewyr i Fethlehem y disgwyliadau? Rhoes rhychwant ei doniau gyfeiriad i'r Gristnogaeth ynghanol dialedd y dyddiau barbaraidd. ALUN PAGE