Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

METHU Â llinell y gyllell unig yn cronni'n goch ar y croen gwyn fel ôl anifail a anafwyd ar eira, dewin ei faes, lleY edwyn ei fysedd yr erwau, a wêl hen Iwybrau'i lafn. Hen rwn siswrn sy isod,— cyfaredd tir cyfarwydd y toriad. Eithr dieithr yw'r daith iddo heddiw a phwer estron a'i raffau hir, astrus hyll am gylla; ei fieri a'i ddrain a glwyfaY ddaear anial a boddiY cybyddus yw chwydd tynn sy'n gorchuddio tiwb a chrogi rhydwelïau; düwch oer fforest a chors yw coluddion wedi'u claddu gan dyfiant o gnwd afiach. Chwilia'i fys yn ofalus filwaith am lwybr trwy gwlwm y labrinth i'w gyllell lacioY bibell yn y bol; llwybrydd y cylla obry'n arloesi â'r laser ac ymbalfalu 'mhell am amlinell y lôn,- trywydd gwaed yn y tiroedd gwyllt. Nes gwân llafn y pancreas gwyw'n llid gan fyrstio'r graith yn y diffeithwch a rhyddhau'r anghenfil glwth. Moment y gwthio mawr i gau dwrn am ei rwygiad o, pwnio'n wlyb i gwpanu'i lif, pwyso i dwll cudd i atal y pistyll coch. Ond trech nag ymdrechion y dewin a'i griw i ymaflyd yn y grym aflan a wledda ar gnawd, yw'r hen laddwr a'i gnoadau'n difa hyder y gwaed cyn difodi'r gell. Gardd wag yw ei unigrwydd o a ollwng ei sgalpel yn y tawelwch i ddiasbedain yn filain yng ngwaelod y fowlen, a dagr main llinell y cardiogram yn llonydd. EMRYS ROBERTS