Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HUW OWEN, GWENYNOG, MÔN (1575? 1642) Y fistula in ano a'i dygodd at ei Grist: crawn amheuaeth, budreddi oes a sbïodd ar y nefoedd trwy graidd y nodwydd. Cenhedlaeth wiberog 'dynnodd ymaith ddillad seintiau cred a'u gwisgo am Dduw Mamon. PoblogiY corau candryll, y cwfeint syber, â'u dwylo dirifedi, barus. Gwneud uchelwr oY offeiriad tlawd a'i borthi ar fraster Duw. Am hanner oes bu Huw Gwenynog yn fodlon ar y drefn. Mynychodd y Suliau di-offeren, enillodd barch tyddynwyr, a'i ddangos yn ei dro i'r fonedd newydd, a sgleiniaiY ffordd i Lundain â phoer y llyfu tin. Disgyblodd ddynion y train'band rhag y gelyn dros y dwr, a chas fu ganddo Sbaen. Ond aeth y boen yn drech nag ef, nes ymglywodd â llais y degwm milain a lynai mewn hiraeth wrth yr hen ffydd. 'Ewch at ddyfroedd Cybi,' meddent, 'a chewch ryddhad.' Ac fe'i cafodd, trwy wyrth neu ddamwain, pwy a wyr?