Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Beirdd Cymru a Hwngari DYSGWYD y faled sy'n dilyn gan genedlaethau o blant ysgol Hwngari. Un o feirdd enwocaf a mwyaf anrhydeddus y wlad oedd ei hawdur, János Arany, ond yr oedd gan y faled ei hun apêl onid neges arbennig i genedl a oedd am fanteisio ar ystatws a enillodd o fewn Ymerodraeth Habsbwrg wedi cyfnod o wasgfa a gorthrwm. Yn sgil chwyldroadau 1848 cododd yr Hwngariaid mewn gwrthryfel yn erbyn yr awdurdodau ymerodrol gan wrthod cydnabod Franz Josef, yr ymerawdwr newydd, yn frenin ar Hwngari, a hyd yn oed datgan eu hannibyniaeth o dan eu Harlywydd Kossuth. Bu'n rhaid i'r Awstriaid wrth gymorth milwrol Rwsia i ddwyn y rhyfel i ben a chwyrn iawn fu'r dial ar y cadfridogion a'r rheini o'r arweinwyr na lwyddasant i ddianc mewn pryd. Am y blynyddoedd nesaf rheolwyd y wlad fel talaith orchfygedig o Vienna, heb ddim o'r hawliau a breintiau traddodiadol a fwynhaodd dros y canrifoedd cyn y gwrthryfel, ond erbyn 1855 teimlai Franz Josef yn ddigon hyf i fentro i Budapest i'w goroni yno yn frenin Hwngari yn unol â gofynion y cyfansoddiad Hwngaraidd a osodwyd o'r neilltu er y rhyfel. Fel arwydd o'r cymod estynnwyd gwahoddiad i feirdd Hwngari ganu clod y brenin, ond serch cynnig gwobrau sylweddol i'w denu, nid atebodd neb i'r cais. Dywedir mai hyn a barodd i Arany ysgrifennu'r faled am feirdd Cymru yn 1856, er nas cyhoeddwyd heb fodloniY sensor nad oedd iddi unrhyw arwyddocâd heblawY chwedl a bortreadai. Ond fel arall y'i derbyniwyd gan yr Hwngariaid eu hunain wedi 1876 pan ad-drefnwyd ymerodraeth Awstria yn frenhiniaeth ddeuol Awstria-Hwngari ac i hunanlywodraeth weinyddol a ieithyddol roi cyfle i'r faled hon ennill lle amlwg ac arwyddocaol yn ysgolion Hwngari. Nid oedd Arany (1817-1882) ei hun ymhlith yr eithafwyr yn 1848, ond yr oedd yn wladgarwr a gynhyrfwyd gan ymddygiad trahaus Awstria wedi'r drin. Yr oedd eisoes wedi ennill cydnabyddiaeth cymdeithas lenyddol aruchel Kisfaludy am ei ganeuon epig, ac yn awr gadawodd ei swydd yn y gwasanaeth sifil a dychwelyd i'w fro enedigol i fyw ar ei gynilion ac ymroi i farddoni ac i gyfieithu o brif ieithoedd Ewrop hen a modern, i'r Fagyareg. Er na fu allan o'i wlad erioed gallai ddarllen Saesneg, Ffrangeg ac Eidaleg heblaw'r Clasuron ac Almaeneg. Cyfieithodd o Weithiau Tasso ac Ariosto, Homer ac Aristophanes, ac o'r Saesneg dair o ddramâu Shakespeare ac amryw o faledi; yr oedd yn drwm o dan ddylanwad Scott. Derbyniodd swydd Athro yn iaith a llên Hwngari mewn ysgol ramadeg cefn gwlad. Yn ystod y cyfnod hwn o orthrwm genedlaethol daeth nodyn dychanol, eironig i'w ganeuon, ond ysgrifennodd ar yr un pryd nifer o faledi swynol iawn. Gellir dweud iddo gyfuno nodweddion y gwir ysgolhaig â dawn bardd, nes bod corff ei waith ymhlith prif ogoniannau llenyddiaeth Hwngari. Pan adferwyd yr Academi Hwngaraidd wedi deng mlynedd o ataliad anrhydeddwyd Arany ganddi, ac fe'i hapwyntiwyd yn llywydd Cymdeithas Kisfaludy a dychwelodd i fyw i'r brifddinas.