Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y mae'r faled i feirdd Cymru yn amlwg yn deillio o'i ddiddordeb yn y baledi Saesneg ac yn arbennig o'i adnabyddiaeth o The Bard Thomas Gray. Ond nid cyfieithiad nac addasiad o'r gerdd honno ydyw, ond mae'n cynnwys hefyd elfennau o faled Warton, The Grave ofKing Arthur. Y mae ei nodyn ar ddiwedd y faled yn cydnabod amheuaeth ynglyn â sail hanesyddol y stori, ac y mae'n bur debyg iddo ddarllen hynny yn llyfr Charles Dickens A Child's History of England. Ysgrifennwyd y stori wreiddiol am gyflafan y beirdd gan Syr John Wynn yn ei hanes am Wyniaid Gwydir, yn 1660, ac er nas cyhoeddwyd cyn 1770, yr oedd y ddogfen yng nghasgliad Mostyn ac yn wybyddus i Lewis Morris a Ieuan Brydydd Hir a thrwyddynt hwy i Thomas Carte a'i cynhwysodd yn ei hanes Lloegr tua chanol y ddeunawfed ganrif, ac felly y daeth i sylw Gray. Ceir manylion yr hanes hwn mewn ysgrif 'The Massacre of the Bards — The Migration of a Myth' gan Neville Masterman, darlithydd yng ngholeg y Brif- ysgol Abertawe sy'n hyddysg yn y Fagyareg, yn Welsh Review, Gwanwyn 1948, lle rhydd gyfieithiad i'r Saesneg, nid y cyntaf ohonynt; yr oedd un gan L. F. Waring eisoes yn y 19 ganrif. Ymddangosodd cyfieithiad Cymraeg eisoes, sef yn y Ford Gron Tachwedd 1932 gan Meredydd Jones Roberts ond cyfieithiad o Ffrangeg ei gyfaill Alexander Toth ydoedd. Y mae'r cyfieithiad hwn o'r Hwngareg yn uniongyrchol. Defnyddiwyd y testun o'r trydydd argraffiad o waith Arany (Cyfrol ii), Pest, 1869. Nid yw ond teg nodi i'r Magyariaid weld y faled yn cael ei defnyddio yn eu herbyn hwythau. Profodd eu sêl cenedlaethol yn drech na'r awydd i estyn cydraddoldeb na hyd yn oed dilysrwydd cyfartal i ieithoedd eu deiliaid o genhedloedd eraill. Ymhlith y Serbiaid a oedd yn byw o fewn ffiniau Hwngari, gwelodd y bardd Zmaj bosibiliadau'r faled ac fe'i cyfieithodd i'r Serbeg, ond fe'i gwaharddwyd hi yn Hwngari. Addaswyd hi ymhellach ymhen rhai blynyddoedd gan Curcin pan roddodd enw llywodraethwr Croatia yn lie enw brenin Lloegr. Adroddir yr hanes hwnnw gan Curcin ei hun mewn ysgrif Wales and Serbia' yn The Welsh Outlook, Mai 1918, ar adeg pan oedd Lloyd George yn noddi ymdrechion Serbia yn erbyn Awstria-Hwngari. MARIAN HENRY JONES