Skip navigation

Y Traethodydd

 - 

Cyf. CXL (594-597) 1985

A Walesi Bardok - Beirdd Cymru

Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
A Walesi Bardok Beirdd Cymru
Iorwerth frenin, brenin Lloegr,
Ar ei geffyl gwyn yn gyrru;
"Mynnaf wybod" meddai "gymaint
Yw fy nhiroedd i yng Nghymru.
"A oes porfa dda ac afon,
Lle mae'r gwair yn tyfu'n drwch
A fu gwaed y gwrthryfelwyr
Yn syrthio'n wrtaith yn ei llwch?
A yw'r bobl, y werin druan
Cyn ddedwydded yn parhau
A ddymunais, fel mae'r ychen
Wrth yr aradr dan yr iau?"
"Cymru yw yr em brydferthaf,
Frenin, yn dy goron di;
Mae afonydd a dyffrynnoedd,
Porfeydd breision, ynddi hi.
Am y bobl, y werin druan,
Fawrhydi, o ddedwydded hwy!
Fel beddau mud yr anheddau i gyd
Sy'n ddistaw ym mhob plwy."
Iorwerth frenin, brenin Lloegr,
Ar ei geffyl gwyn yn gyrru.
Lle bynnag try distawrwydd sy'
Dros ei diroedd ef yng Nghymru.
Trefaldwyn ydoedd enw'r dref,
Lle troes ar ddiwedd dydd;
A Maldwyn ydoedd enw'r Iarll,
A roes iddo groeso'n rhydd.
Pysg, helwriaeth, pob pasgedig
A flinai'r llygad, flinai'r dant;
Gwegiai'r byrddau dan bwys y seigiau
A gyrchid gan osgorddion gant.
Popeth gynigiai'r ynys brydferth
O ddiod ac o fwyd yn stôr,
AY gloyw win yn byrlymu ei rin,
Ffrwyth gwledydd dros y môr.
"Chwi Arglwydd! onid oes un
A fynn yfed fy iechyd i?
Chwi Arglwyddi, cwn o Gymry!
Oni ddymunwch lwydd i mi?
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.