Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Heb neb yn galw na'i gymell ef, Y trydydd bardd a ddaw. Rhaid gwrando, er ei thristed hi, Ar alaw lawn o fraw; "Bu farw y dewr ar faes y drin, O! gwrando, frenin mawr! Nid oes i'th ganmol yma'r un O feirdd ein gwlad yn awr. Mae'u coffa ar dannau fy nhelyn i, O! gwrando frenin mawr! Pob cân sy'n felltith ar dy ben Gan feirdd ein gwlad yn awr." "'Rwy'n gweld yn awr," y brenin ffrom Orchymyn llym a roes; "Bwrier pob gwrthryfelwr hyf O Gymro i'r stanc a'r groes". Marchogai'i weision drwy y wlad, Pob un â'i waedlyd gledd. Fel hyn ym Maldwyn diwedd ddaeth Ar anghofiadwy wledd. Iorwerth frenin, brenin Lloegr, Ar ei geffyl gwyn yn gyrru. Coch yw'r ddaear, coch yw'r wybren Yn ei diroedd ef yng Nghymru. IY fflamau tân heb dewi eu cân Pum cant o feirdd a roed, Ond nid oedd un a ganai'r gainc "Ein Hiorwerth dedwydd boed". Ond ha! Pa hwyrol gân yw hon Ar strydoedd Llundain glywir? "Os daw i'm clust y lleiaf swn, Yr Arglwydd Faer a grogir". Popeth yn ddistaw, heb air tu faes, Tu fewn heb si gwybedyn. "Ymaith â'i ben a ddywed sen!" Gorffwys nid oes i'r brenin.