Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'A Chydgenwch Deulu'r Llawr' I AMCAN y papur hwn yw portreadu dyn a oedd yn ffigur hynod o boblogaidd ac adnabyddus yn ei ddydd ond na chofir amdano erbyn heddiw ond fel awdur dau neu dri o emynau cyfarwydd.1 Ganed John Thomas Job ar 21 Mai, 1867, yn Llandybïe, yn un o bump o blant i John a Mary Job.2 Yr oedd y teulu'n aelodau yn Eglwys Gosen M.C., a bu'r aelwyd yn nodedig am ei duwioldeb a'i chrefyddolder. Yr oedd y fam yn astudiwr brwd o'r Beibl a'r Llyfr Emynau ac yn edmygydd o farddoniaeth Islwyn.3 Ewythr i Job oedd yr hynod Barchedig Thomas Job, Cynwil (1825- 1898), a oedd yn ddirwestwr blaenllaw ac yn un o weinidogion enwoca'r Hen Gorff. Ymwelai'n gyson â'r aelwyd yn Llandybïe a byddai sgwrsio difyr a hirfaith yno am bob agwedd o fywyd y Capel.4 II O ben bwy gilydd, yr oedd Cymru'r adeg honno'n wlad ymneilltuol, yn enwog am ei duwiolfrydedd. Canolid gweithgarwch aruthrol, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol, ar y Capel. Dyma'r cyfnod pryd yr adeiladwyd capeli ar hyd a lled y wlad, a hynny gan fwy nag un enwad a chan osod, yn aml iawn, fwy nag un capel yn perthyn i'r un enwad mewn tref neu bentref. Addolai cynulleidfaoedd mawrion yn y cysegrau ac fe'u cyflyrid gan y diwylliant a gyflwynid iddynt. Fe'u hanerchid weithiau gan bregethwyr a oedd yn fwy o actorion melodramatig na lleisiau distaw main yr Efengyl. Dyma oes aur y cyfarfodydd crefyddol, Y Seiat, Y Gobeithlu, ac yn y blaen, bob un wedi'i anelu at ryw agwedd neu'i gilydd o'r bywyd ysbrydol — ac nid oedd hyn i gyd ond yn un wedd ar egni'r genedl ar ganol gweithgarwch ac optimistiaeth Oes Fictoria. (Dylid cofio i Fyddin Yr Iachawdwriaeth gael ei sefydlu ym 1865 ac i ddiwygiad rhyngenwadol masnachol-grefyddol Sankey a Moody darfu ar y wlad ym 1875.) Eto i gyd, mor gynnar â'r degawd pryd y ganed Job yr oedd newid ysgubol ar y gorwel, a chred y Prifathro R. Tudur Jones fod trychineb crefydd Cymru yn yr ugeinfed ganrif i'w briodoli i'r dirywiad a'r cyfnewidiadau a welwyd yn ystod y chwarter canrif, 1890-1914.5 'Gesyd Calfiniaeth Dduw yng nghanolfan y meddwl yn hytrach na dyn, a gwneir gogoneddu Duw yn brif ac unig bwrpas bywyd', felly y pwysleisiodd yr Athro Emeritws J. E. Caerwyn Williams hanfod Calfiniaeth,6 eithr yn ystod y cyfnod hwn yng Nghymru, hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, tanseiliwyd yr hen Galfiniaeth Efengylaidd adra-deyrnasai am ganrif gron oddi ar y Diwygiad Mawr ar ganol y ddeunawfed ganrif. Cyfeiriwyd egni diwinyddol y cyfnod at ymgecru am yr Iawn a'r union ffurf y dylaiY athrawiaeth ei chymryd,7 a chyhoeddodd pen-ddiwinyddion y dydd lyfrau lluosog ar y pwnc llosg. Yn eu plith gellir rhestru'r Dr. Lewis Edwards (ymddangosodd ei lyfr yntau ym 1860). Dyma'r cyfnod hefyd pryd yr ymgyfathrachwyd â'r 'Ddiwinyddiaeth Newydd' a geid yng nghyfundrefnau athronyddol Hegel a