Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O golli ffydd a'i hadennill NID oes angen rhyw lawer iawn o synnwyr cyffredin nac ychwaith o ddychymyg heb sôn am weledigaeth i sylweddoli fod ein gwareiddiad a'n byd mewn cryn dipyn o gyfyng gyngor y dyddiau hyn. Y mae'n amlwg fod y ddynoliaeth yn wynebu argyfyngau na feddyliwyd amdanynt genhedlaeth yn ôl. Yn eu plith cyfyd problemau'r trydydd byd y tlodi eithafol a'r prinder ofnadwy o fwyd i fodloni'r poblogaethau cynyddol. Newidiodd safonau moesol a chymdeithasol gwledydd y gorllewin a chynyddodd y defnydd a wneir o gyffuriau. Cafodd y cyfryngau torfol ddylanwad eithriadol dros gyfnod o amser, a daeth materol- iaeth a'r wanc am gael a meddiannu yn un o brif nodweddion cymdeithas. I goroni'r cyfan, y mae'r ddynoliaeth yn bodoli dan fygythiad rhyfel niwclar a'i ganlyniadau erchyll dros gyfandiroedd. Rhennir cymdeithas yn sgil gwahaniaeth barn a diffyg goddefgarwch. Yn wyneb yr holl amgylchiadau sydd wedi ein goddiweddyd mewn cyfnod cymharol fyr, gwelwyd tueddiadau ymhlith llawer iawn o drigolion y gwledydd bellach i droi eu cefnau ar y sefyllfa, a pheidio ag ymboeni ryw lawer amdani gan ddisgwyl y daw gwell byd yn y man. Wedi'r cyfan, onid anodd ydyw bodoli o gwbl wrth feddwl yn feunyddiol am broblemau o'r fath? Ond beth mewn gwirionedd sydd yn digwydd? A ydym, tybed, yn araf ond yn sicr ac efallai yn ddiarwybod, yn llithro i lwybr tranc ein traddodiad crefyddol a'n gwareiddiad Cristnogol. Efallai mai gormodiaith ydyw hynny, ond y mae'n amlwg ddigon i'r Eglwys fel cyfundrefn golli ei gafael a'i dylanwad ar y gymdeithas sydd ohoni. Fel y dywedwyd, gellir priodoli hyn i faterolaeth a difaterwch yr oes, a hynny yn ei dro yn arwain i'r newidiadau syfrdanol a ddaeth i agwedd dyn tuag at safonau moesol a chrefyddol ei gefndir a'i dras. Rhaid cydnabod bellach fod y canllawiau a barodd i ddyn ofni Duw a glynu wrth eglwys a chapel wedi eu dryllio'n llwyr. I'm tyb i, canlyniad agweddau hollol newydd tuag at fywyd yn ei gyfanrwydd ydyw hyn i gyd. Gellir eu priodoli i raddau pell iawn i'r osgo wyddonol fiolegol sydd wedi treiddio yn araf ond yn sicr ddigon, i mewn i feddylfryd crefyddol yr oes a'i danseilio. Ni chredaf i grefyddwyr hyd yn oed heddiw sylweddoli yr effaith andwyol a gafodd yr osgo hon ar y gred draddodiadol a fu'n sylfaen ganolog a chadernid eu ffydd dros genedlaethau lawer. Eto i gyd, y mae llawer o grefyddwyr selog ein cyfnod yn derbyn boddhad wrth ddathlu rhai o ddigwyddiadau crefyddol y gorffennol o bumed jiwbili y Diwygiad Methodistaidd a dau can mlwyddiant yr Ysgol Sut i eni Mari Jones o'r Bala. Ond i filoedd o'n cyfoedion ofer ydyw ceisio adennill gorfoledd y gorffennol pell. Gan imi drafod yn fanwl eisoes yn Y Traethodydd (CXXV, 1970, t. 204, CXXIX, 1974, t. 48) rai o'r canllawiau a sigwyd, ni wnaf ond eu nodi'n fyr yma. Diorseddwyd y syniad fod dyn wedi ei greu ychydig is na'r angylion ac ar lun a delw Duw, ei greu yn y perffeithrwydd hwnnw ond iddo syrthio ohono drwy bechod. Y gwrthwyneb sydd yn apelio bellach. Esblygodd dyn i'w ddimensiwn presennol oddi wrth greaduriaid nad oeddynt yn ddynion. Beth felly a olygir wrth 'y cwymp'? A oes diddanwch wrth sôn am 'hil syrthiedig Adda*? Bellach nid