Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dyfroedd yn arwynebol ac emosiynol, nac ychwaith lynu'n ddifeddwl wrth athrawiaethau'r gorffennol y llwyddir i ateb y cwestiwn mewn dyddiau fel y rhain, os oes ateb o gwbl. Rhaid pwysleisio nad ffeithiau moel sydd wrth wraidd y chwyldro gwyddonol bellach, ond yn hytrach osgo ac agwedd hollol ffwndamental. Y mae'r neb a wrthodo ddyfod i adnabyddiaeth glir ohono yn ei ddallu ei hun i ddatblygiad mwyaf eithriadol a thyngedfennol ein canrif. Credaf ei bod yn oblygedig ar y Cristion heddiw i edrych o'r newydd ar y byd a ddatgelwyd drwy astudiaethau gwyddonol o bob math, a cheisio adeiladu ac adennill ei ffydd o'r newydd o ganlyniad. Credaf hefyd y cyfyd profiadau gwefreiddiol o geisio deall beth yn y pen draw y mae'r ffydd Gristnogol yn ei olygu a'i ofyn mewn amseroedd fel y rhain, amseroedd a dybiaf sydd mor wahanol o'u cymharu â'r blynyddoedd y rhodiodd yr Iesu lwybrau'r ddaear. Os nad oes gan ein ffydd neges wedi ei haddasu i'r oes bresennol ac wedi ei seilio ar y naill law ar ddysgeidiaeth yr Iesu ac ar y llaw arall yn cydredeg â chyraeddiadau gwyddonol a biolegol yr oes, ofnaf mai ofer yn wir ydyw ein hymdrechion. Dyma her fawr i'r Eglwys hithau. Beth amser yn ôl, estynnodd Golygydd Y Traethodydd wahoddiad i rai o Gristnogion adiwinyddion mwyaf blaenllawein cenedl i ateb yr her. Cafwyd cyfres o ysgrifau gafaelgar, ond loes i un fel fi oedd sylweddoli na soniwyd ond unwaith yn fyr gan un o'r gwahoddedigion beth a ddylai fod ymatebiad y Cristion i'r chwyldro gwyddonol. Pa agweddau o'n ffydd a ddeil yn wyneb y berw gwyddonol? I ateb, rhaid ymwrthod â damcaniaethau diwinyddol a fu mor lluosog ac mor amrywiol yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn ond yn hytrach ganolbwyntio ar hanfod ein ffydd yn ôl uchelbwyntiau bywyd a dysgeidiaeth yr Iesu. Os oes gan ddiwinydd- iaeth marwolaeth Duw unrhyw arwyddocâd mewn oes fel hon, ein dysgu i ail ddarganfod hanfodion ein crefydd a datgymalu a dinistrio yr amrywiol ddamcaniaethau diwinyddol ydyw hynny. Saif yr Iesu yn ganolbwynt ein gobaith, yr Iesu a rodiodd ein daear am gyfnod byr ac a ddangosodd y llwybr i'n gwahodd i fod yn ddilynwyr iddo yn y drefn newydd a geisiodd ei sefydlu. Cododd obeithion y ddynoliaeth i ddimensiwn hollol newydd a bu ei fywyd yn drobwynt yr un mor allweddol â thyngedfennol yn hanes y ddynoliaeth â'r tri a nodais eisioes. Yn wir, i'r Cristion dyma'r mwyaf un, a hynny nid o angenrheidrwydd oblegid geni'r Iesu'n wyrthiol o forwyn ar ddechrau ei fywyd, nac ychwaith ei groeshoeliad ar ei ddiwedd, ond yn y ffordd a ddangosodd yn ei fywyd i godi'r ddynoliaeth i lefel tu hwnt i bob dirnadaeth a ddaeth i feddwl dynion cyn ei ymddangosiad. Prif lwybr y ffordd hon ac yn wir, calon dysgeidiaeth yr Iesu oedd ei weledigaeth o'r Deyrnas. Credaf y gwireddwyd dwy agwedd hanfodol wrth i'r Iesu sôn am y Deyrnas. Yr agwedd waelodol oedd fod y Deyrnas ar fin dyfod ac y byddai ei hymddangosiad yn goddiweddyd yr holl fyd ac yn weladwy i bawb. Nid oes raid dwyn ar gof i ddarllenwyr Y Traethodydd dystiolaeth o enau'r Iesu ynglyn â'r elfen hanfodol hon. Yr oedd yr ail agwedd yn ymwneud â chyflwr yr unigolyn. Wrth iddo sylweddoli dyfodiad y Deyrnas yn ei grym a'i harwyddocâd, daw'r unigolyn i ymwybyddiaeth newydd. Fel yr oedd yr Iesu'n fab Duw, daw'r deiliaid hwythau i ymgyrraedd at yr un berthynas, ac i sylweddoli eu bod yn