Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

arwain ei fyfyrwyr i blith y dirgelion elfennol. I gadarnhau'r dehongliad hwn, gallwn nodi bod Kristensen yn gwahaniaethu'n glir rhwng dau fath o wareiddiad yn ystyr lletaf y gair, yr hen a'r newydd, hen wareiddiadau o gylch Môr y Canoldir a gwareiddiad diweddar Ewrob. Yr hyn sy'n nodweddu 'r ail fath, medd Kristensen, yw rhesymoliaeth a goleuedigaeth, darostwng Natur i ofynion dyn a cholli'r ymwybyddiaeth o gefndir cyfriniol bodolaeth. 'Roedd yr hen fyd, ar y llaw arall, yn meddu ar ymwybyddiaeth fyw o'r cydweithredid rhwng y ffactorau meidrol ac anfeidrol yn hanfodion bywyd. Dirgelwch a amgylchynai'r trigolion, ac yn eu mythau aneirif mynegasant ystyr yr egnïon a'r grymusterau a dreiddiai drwy'r byd. Nid rheswm, ond y di-reswm oedd yn bwysig iddynt, nid pellhau oddi wrth Natur a wnaethant, ond agosáu ati. Profasant fodolaeth fel realiti dwyfol, trefn y byd fel trefn ddwyfol, gwelsant eni a marw fel agweddau ar unoliaeth sylfaenol a llyncwyd y gwrthgyferbyniadau yn harmoni yr undod mawr. Yr hyn oedd yn symbylu ymchwil Kristensen oedd ymrwymiad i ffydd credinwyr eraill, ddiddordeb mewn Crefydd Gyfrin, ymdeimlad dwys o ddirgelwch bywyd ac ymdrech i blymio dyfnderoedd ei ystyr. Gellir rhestru ei brif gasgliadau fel a ganlyn; (a) Yn ffenomenolegol nid oes crefyddau uwch a chrefyddau is. Y gwerth sydd o bwys yw'r gwerth a wêl y crediniwr yn ei gredo. (b) Nid yw Ffenomenoleg yn cymharu'r crefyddau fel unedau mawr. Ei swyddogaeth yw trefnu ffeithiau a ffenomenau tebyg o'u cysylltiadau hanesyddol a diwylliannol, a disgrifio y meddwl neu'r syniad neu'r angen sydd wrth wraidd clwstwr o ffeithiau cyfatebol. (c) Geilw Ffenomenoleg am gydymdeimlad ac empathi, ymdeimlo â churiad mewnol y data crefyddol trwy gyfrwng y dychymyg. Proses gymhleth yw hon, ond cyflwynir yr ystyr yn dda iawn gan y gair Almaeneg, Einfühlung. Er bod Kristensen yn canfod perthynas gilyddol rhwng y disgyblaethau hanesyddol, ffenomenolegol ac athronyddol, fe gyfynga Ffenomenoleg i'r dasg o drefnu ffeithiau cyffelyb a disgrifio'r ystyr gwaelodol a dadleua fod trafod hanfodion yn rhan o gyfrifoldeb athroniaeth. Yn hyn o beth, saif Kristensen ar ei ben ei hun yn y traddodiad ffenomenolegol. Enwau eraill o bwys yn nhraddodiad yr Iseldiroedd yw G. van der Leeuw2 a C. J. Bleeker3. Ond canolbwyntiwn yma ar syniadau K. A. H. Hidding4 sy'n ymddangos i mi fel rhai ffrwythlon iawn. Maes astudiaeth arbennig Hidding yw esblygiad ymwybyddiaeth grefyddol a gwêl ddau gyfnewidiad neu dreigliad mewn ymwybyddiaeth ddynol yn eu datguddio eu hunain mewn mynegiadau crefyddol nodweddiadol ac yn dangos sawl saernïaeth grefyddol a gwahanol. Digwydd y treigliad cyntaf yn saernïaeth ontolegol hen grefyddau y Dwyrain Agos, megis yr Aifft a Mesopotamia, yn Hindwaeth a'r crefyddau cyntefig. O'r treiglad hwn daw saernïaeth hanesyddol- broffwydol fel y'i ceir yn Soroastraeth, Iddewaeth ac Islam. Digwydd yr ail dreigliad yn y saernïaeth ontolegol yn ogystal â'r hanesyddol-broffwydol ac ohono daw saernïaeth wedi'i hymgorffori mewn person hanesyddol fel y'i gwelir yn y Grefydd Gristnogol. Mae'r saernïaeth ontolegol wedi'i gogwyddo tuag at fod yn ei ddatguddio ei hun yn y cosmos. Yma uniaethir Duw â Bod, a pherchir y grymusterau sy'n cynnal bodolaeth dyn. Yn y saernïaeth hanesyddol-broffwydol, ar y llaw arall, amddifedir y cosmos o'i gymeriad dwyfol, a daw yn awr yn greadigaeth feidrol a