Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dychwelyd at y Diduedd YN rhifyn Hydref 1983 o'r Traethodydd fe gafwyd ysgrif ddifyr gan yr Athro Dewi Z. Phillips, 'Ai bod yn naïf yw ceisio bod yn ddi-duedd?' Ceisiais ei ateb ef yn y rhifyn wedyn. Ac yna, bu tawelwch mawr. Osgowyd dadl. Nid fy nod i'n awr yw dychwelyd er mwyn rhwbio trwyn yr Athro hyglod yn fy nhipyn ateb. Eithr credaf fod y mater mor sylfaenol i unrhyw fath o drafodaeth egwyddorol ynghylch addysg fel y dylid efallai ymhelaethu ychydig ar yr hyn a sgrifennais yn rhifyn Ionawr 1984. Dywed yr Athro Phillips yn bwyllog, 'Wrth wadu'r posibilrwydd o ymchwil ddiduedd mae modd creu dihangfa amddifynnol i'r rheini sydd am osgoi dadlau dros eu safbwynt. Oherwydd fod gan bawb eu rhagdybiaethau nid oes modd beirniadu'r fath ragdybiaethau.' Yn awr, y mae'n gwbl amlwg i bawb bellach fod y gwirionedd yn gorfod bod i'r gwrthwyneb i hyn. O leiaf, os meiddia un ddweud fod ganddo duedd neilltuol- dyweder at Gristnogaeth neu at Farcsiaeth yna bydd modd archwilio hynny'n agored. Bydd modd cymharu a dadansoddi a disgrifio. Ond pan wada rhywun nad oes ganddo yr un duedd, ei fod ef y tu hwnt i bob rhagdybiaeth fel petai, yna mae'n rhaid ei wylied yn garcus. Dyma'r un sy'n ceisio dianc rhag ymholiad. Yr un sinistr. Ychydig sy'n fwy niweidiol i fywyd deallol na dogmatiaeth anymwybodol ddiymholiad y goddrychwr hunan- ganolog. Beth bynnag, dichon nad annheg inni honni na cheisiwyd yn yr achos hwn ddianc rhag dadl gyda'r Athro Phillips, er na hoffwn awgrymu (eto) fod ei ochr ef yn ceisio dianc bid siwr. Fe ddaw yntau'n ei ôl i'r gad mewn iawn bryd, yn ddigon tebyg. Asgwrn y gynnen yw'r honiad Cristnogol nad oes neb yn hollol 'rydd' neu ddiduedd yn yr ystyr seciwlar. Mae'r sawl sydd yng nghrafanc canlyniadau'r cwymp yn tueddu o anghenraid tuag at arglwyddiaeth yr hunan a marwolaeth. Dyn ei hun wedi dod 'megis duwiau'. Mae'r sawl sydd o dan arglwyddiaeth Crist ar y llaw arall yn derbyn y datguddiad rhoddedig. Os caiff ddihangfa drwy waed y Groes, yna fe duedda tua thragwyddoldeb. Gwedir hyn oll gan y seciwlarwr, wrth raid. A honna hefyd nad safon mewn cymdeithas ddi-foes yw difoesedd. Nid rhagdybiaeth iddo ef yw'r rhagdybiaeth i gymryd ei feddwl ei hun yn fesur i farnu. Nid rhagdybiaeth yn ei fryd ef yw na'i allu na'i ddymuniad i wneud iaith yn offeryn deall gloyw. Tystia'r Cristion nad naif yn unig, ond dwl hefyd, yw'r cyfryw honiad, megis pan ddeil athronydd os wynebir ef gan y sawl a ddywed mai pump yw dau a dau ochr yn ochr â'r sawl a fentra honni mai pedwar ydyw, mai ei unig swyddogaeth wyryfol ef yw gwneud honiadau'r naill ochr a'r llall yn eglurach, heb feiddio cymryd yr un ochr. Ffôl, mewn gwirionedd, yw'r hawl garlamus honno mai diduedd yw'r sawl na fyn ond gwneud iaith yn gliriach. Amlwg y w ei bodhi o leiafyn duedd hollol wrthwyneb i unrhyw awydd i wneud iaith yn dywyllach. Dadleuwn felly nad naïf yn unig eithr ffôl yn ogystal yw'r honiad bod neb yn gallu bod yn ddiduedd. Heblaw hynny, peryglus ydyw. Dyma'r math o hunan- dwyll sydd wedi tanseilio'r dystiolaeth Gristnogol yng Nghymru o du rhydd- frydwyr hygoelus ers dros gan mlynedd drwy hawlio rhyw fath o wrthrychedd