Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'Tranc "Y Llenor" Yn ei ysgrif werthfawr, 'Tranc "Y Llenor" mae T. Robin Chapman wedi cynnull nifer o ffeithiau arwyddocaol. Sonia ar dudalen 62 am gyfraniadau llenyddol a ballodd ar ôl 1943 wedi Etholiad y Brifysgol ac am rai a ymrwymodd i beidio â chyfrannu. Mae'n sôn am gyfraniadau a wneuthum i ac eraill. Nid wyf yn amau yr un o'r ystadegau hyn. Ond yr hyn sydd o reidrwydd yn guddiedig yw'r cyfraniadau a wrthododd W. J. Gruffydd ei hun oherwydd yr odium politicum (neu a theologicodium?) a afaelodd ynddo yntau. Ar ôl y ffin a nodwyd anfonais i gyfraniad ato, sef'Chweched Llyfr Odysseia Homer'(trosiad o'r rhan fwyaf o'r llyfr gyda rhagymadrodd byr). Cawsai'r trosiad ei wobrwyo yn Eisteddfod Caerdydd (1938) gyda chlod gan y beirniad, H. Parry Jones, Llanrwst, a rhai awgrymiadau a ddilynwyd gennyf. Anfonodd Gruffydd y gwaith yn ôl ataf heb unrhyw reswm am y gwrthodiad ond ychydig sylwadau ar y ffordd o sillafu'r enwau priod. Yn ffodus i mi cafodd y trosiad groeso mewn cylchgrawn arall: gw. Y Traethodydd 14 (1945), 23-30. Dylwn egluro imi gefnogi ymgeisiaeth Saunders Lewis yn gyhoeddus yn Etholiad y Brifysgol. Ni chofiaf imi glywed dim am yr ymrwymiad i beidio â chyfrannu i'r Llenor. Ond wedi'r gwrthodiad a grwybwyllais ni chynigiais ddim. (Cyn hynny yr anfonais y soned a ymddangosodd ym 1944). Roedd gennyf ysgrif ynddo ym 1948 ('Diwylliant Groeg yn yr Aifft'), ond ar wahoddiad caredig y Dr. T. J. Morgan y lluniais honno; ac ef, fel y dywed Mr. Chapman, oedd 'unig wir olygydd y cylchgrawn' ar ôl 1946. Abertawe J. GWYN GRIFFITHS YTOETHODYDD CYLCHGRAWN CHWARTEROL · Os ydych o blaid y Gymraeg fel iaith difyrrwch, yr ydych o'i phlaid fel iaith deallusrwydd; · Os ydych o'i phlaid fel iaith ysgolion, yr ydych o'i phlaid fel iaith addysg; · Os ydych o'i phlaid fel iaith y capel, yr ydych o'i phlaid fel iaith diwinyddiaeth; · Os ydych o'i phlaid fel iaith ffurflen a llên, yr ydych o'i phlaid fel iaith diwylliant, -Ac yr ydych o blaid cadw'r 'TR AETHODYDD', yr unig gylchgrawn sy'n darparu ar gyfer diwylliant cyffredinol y Cymro Cymraeg. Bargen am f y rhifyn + cost cludiad: 24c Tanysgrifiad blwyddyn ymlaen llaw: f4 (gan gynnwys cludiad).