Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau Llyfr Du Caerfvrddin gyda rhagymadrodd, nodiadau testunol, a geirfa gan A. O. H. Jarman ac adranary llawysgrifau gan E. D. Jones. (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1982). Tt. lxxxii, 176. Pris: I 7.95. RHAID croesawu'r gyfrol hon yn gynnes ac yn ddiolchgar iawn oblegid gyda'i hymddangosiad gellir dweud fod un arall o brif lyfrau ein llenyddiaeth gynnar, un arall o'r Four Ancient Books of Wales fel y daethpwyd i'w galw dan ddylanwad argraffiad W. F. Skene (1868), wedi cael y driniaeth ysgolheigaidd a haedda. Fe'i cyflwynir 'Er coffa am fy Athro yn y Gymraeg, Syr Ifor Williams, a ganiataodd i mi gymryd y Llyfr Du'n faes astudiaeth', ac y mae hynny'n briodol iawn, oblegid dechreuodd yr Athro Jarman ei yrfa ysgolheigaidd ddisglair drwy astudio Canu Myrddin ar gyfer traethawd M.A. dan gyfarwyddyd Syr Ifor Williams a oedd ar y pryd yn darlithio ar rannau o'r Llyfr Du ac wrthi'n brysur yn ysgrifennu ei lyfr ar Ganu Llywarch Hen sy'n cynnwys golygiad o ran o'r Llyfr Du (Enwau Meibion Llywarch Hen). Buasai Syr Ifor yn gwerthfawrogi'r gyfrol hon ac yn falch o'i chyflwyniad iddo ef ei hun, oblegid dyma'r math o astudiaeth sydd yn cyflawni ei waith ef, ac yn ei gyflawni gyda'r un trylwyredd ag a nodweddai hwnnw. Daw adran y Dr. E. D. Jones ar y llawysgrif ei hun ar ddechrau'r rhagymadrodd, ac y mae'n gaffaeliad mawr iddo, oblegid ynddi ceir cipolwg ar hanes y Llyfr Du ac ymwneud pobl ag ef, yn berchnogion ac ysgolheigion, yn ogystal â disgrifiad manwl o'i ysgrifenyddiaeth. Bu ei ddyddio'n sialens drwy gydol y cyfnod diweddar a cheisiwyd gwneud hynny ar sail cynnwys y gwahanol destunau ynddo ac ar sail yr ysgrifenyddiaeth. Siomedig fu'r ymgais ar sail y cynnwys ac ni bu'r ymgais ar sail yr ysgrifenyddiaeth heb ei phroblemau. Dyma un rheswm paham yr oedd yn syniad hapus iawn gofyn i'r Dr. E. D. Jones, cyn-Lyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol a gwr a dreuliodd ei oes yn astudio llawysgrifau Cymreig a Chymraeg, ysgrifennu ar y Llyfr Du fel llawysgrif. Ymddengys mai yn 1861 y ceisiwyd barn arbenigwyr gyntaf ar oed y llawysgrif. Barn Thomas Duffus Hardy y flwyddyn honno oedd 'ei bod yn perthyn i dcìiwedd y ddeuddegfed ganrif, a thueddai Frederick Madden yr un amser ei dyddio tua 1200, er nad oedd yn barod i ddadlau yn erbyn ei gosod yn 190. Ac meddai Dr. Jones: Yn ddiddorol iawn, yr oedd y ddau arbenigwr ar yr olwg gyntaf wedi ei phriodoli i'rdrydedd ganrif ar ddeg, ond sylwi ar y defnydd o liw gwyrdd mewn priflythrennau mawr, arfer a beidiasai yn Lloegr erbyn tua 1200, gwthiasant y dyddiad yn ôl i'r ganrif flaenorol. Ni roesant ddigon o sylw i'r duedd i ffasiynau oroesi yn y gorllewin. Dros ugain mlynedd yn ddiweddarach cafwyd barnau W. D. Macray ac Edward Maunde Thompson. 'Roedd y ddau'n ymwybodol y gallai traddodiad hyn o ysgrifenyddiaeth fod wedi para'n hwy yng Nghymru nag yn Lloegr, a bod yr ystyriaeth honno'n berthnasol wrth geisio dyddio'r Llyfr Du. Amcangyfrif Macray oedd o 1 180 i 1210. Ni chredai Thompson, ar y llaw arall fod dim o'r llawysgrif yn hyn na diwedd y ddeuddegfed ganrif. Yng ngolau hyn oll y mae'n ddiddorol dros ben sylwi fod y diweddar Hywel D. Emanuel ar gais y diweddar Athro Thomas Jones wedi dyddio ysgrifennu Englynion y Beddau yn ail chwarter y drydedd ganrif ar ddeg ond darfod chwanegu'r pedwar olaf yn ail hanner y ganrif honno. Fel y gellid disgwyl, rhy'r Dr. E. D. Jones gryn sylw i waith N. Denholm-Young, Handwriting in England and Wales (Cardiff, 1954, 1964), 'yr astudiaeth fanylaf a wnaethpwyd hyd yn hyn o ysgrifenyddiaeth Gymreig', (er bod lle i gredu y gwelir adolygu ar rai agweddau o'i waith fel y gwnaethpwyd eisoes yn achos Llsgr. Hendregadredd). Am ysgrifenyddiaeth Gymreig fe1 y ceir hi yn y llawysgrifau Cymreig a Chymraeg, cynnar, dadleuodd Denholm-Young mai canlyniad priodas ydoedd hi rhwng y littera majuscula Ynysig fel y datblygodd yng Nghymru a'r littera minuscula a ddatblygodd wedi'r Goncwest. Ac am ysgrifenydd- iaeth y Llyfr Du, disgrifiad Denholm-Young ohoni yw 'this palaeographical freak'. Cytuna Dr. Jones a'r disgrifiad, ac yn bwysicach fyth, cytuna nad yw'r gwahaniaeth rhwng yr ysgrifen fawr a'r ysgrifen fechan a arweiniodd Gwenogfryn Evans i ddyddio'r llawysgrif i ddau gyfnod gwahanol (1135-54 a 1154-99) a'i phriodoli i ddau gopïwr, yn gyfryw o gwbl fel y bo rhaid credu nad gwaith yr