Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

lanc Maredudd a Rhys, wyrion i Rys ap Tewdwr, yn meddiannu castell Caerfyrddin, h.y., hwy oedd y ddau genau o hit Rhys. Y digwyddiadau hanesyddol diweddaraf y gallodd yr Athro Jarman gael cyfeiriadau atynt yn nhestun y Llyfr Du yw'r rhai yn y blynyddoedd 121 1 a 1212 a oedd yngysylltiedigâ'rbrwydro rhwng y brenin John a'i fab-yng-nghyfraith Llywelyn ab lorwerth. Ond cystal i ni adael i'r Athro Jarman grynhoi ei ymchwil i'r cyfeiriadau at ddigwyddiadau hanesyddol: Hyd y gwelaf, felly, pedwaro benillion yr Afallennau a'r Oianau sydd yn cynnwys cyfeiriadau hanesyddol y gellir eu hamseru'n gwbl hyderus a sicr. Perthyn y diweddaraf o'r rhain i 1211-12, a'r lleill i 1198-1201, 1173-89 a 1 151-5. O dderbyn barn y Dr. E. D. Jones mai tua 1250, ac wedi hynny, yr ysgrifennwyd y'llsgr., rhaid sylwi fod y copïydd wedi bodloni ar gopïo daroganau a ymwnâi â digwyddiadau dwy a thair cenhedlaeth a rhagor o flaen ei amser ef. Y mae'run pethyn wir am yr ychydiggerddi hanesyddol eraill a gopïwyd ganddo. Ymaerhif22 yn gerdd foliant i dywysog, Hywel ap Goronwy, a fu farw yn 1 106. Y mae rhif 23 yn gerdd ddadolwch i'r Arglwydd Rhys o Ddeheubarth (1132-97). Yn 1160 y bu farw Madog ap Maredudd, y ceir englynion i'w deulu (h.y. ei warchodlu) yn rhif 37, a marwnad iddo yn rhif 38. Perthyn y pedair cerdd hanesyddol hyn, felly, i'r ddeuddegfed ganrif. Dengys y dyfyniad hwn fod yr Athro Jarman wedi rhifo'r cerddi sydd yn y Llyfr Du. Fe'u dosbarthodd hefyd yn bedwar dosbarth, sef A. Daroganau a chanu Myrddin; B. Moliant a Marwnad; C. Crefydd; Ch. Chwedlonol. Ac yn y rhagymadrodd ymdrinia â phob cerdd fel yr ymddengys yn ei dosbarth gan grynhoi 'ynghyd, yn bennaf, wybodaeth lyfryddol am ymdriniaethau ysgolheigaidd â gwahanol gerddi'r Llyfr Du. Gweithiau diweddar a gweddol ddiweddar a restrir gan mwyaf ac ni chyfeirir ond yn anaml at drafodaethau mewn Uyfrau o'r ganrif ddiwethaffel The Four Ancient Books of Wales W. F. Skene (1868) a The Literature of the Kymry Thomas Stephens (1849-1876).' Efallai mai wrth drafod cerddi'r dosbarth cyntaf y mae'r Athro Jarman yn arlwyo ffrwyth ei ymchwil bersonol fwyaf ger ein bron efe wedi'r cwbl ydyw ein pennaf awdurdod ar Ganu Myrddin. Ar y cyfan y mae'n fodlon crynhoi casgliadau astudiaethau eraill wrth drafod cerddi'r dosbarthiadau eraill, ond nid yw ei gyfraniad ef ei hun i'r drafodaeth i'w anwybyddu un amser, a sut bynnag, y mae sefyllfa astudiaethau o'r Cynfeirdd a'r Gogynfeirdd wedi ei chwyldroi nid yn unig gan gyfraniadau arloesol Ifor Williams a Lloyd-Jones ond hefyd gan ymddangosiad y gwahanol fynegeiriau megis y rhai i Lyfr Taliesin a Llsgr. Hendregardredd a'r lIeill sydd ar y ffordd. Nid yw hyn, wrth gwrs, yn golygu y gellir anwybyddu llafur unigolion yn astudio gwahanol destunau. Fel yr arferai Syr Ifor ddweud, ac yr wyf yn siwr y cytunai'r Athro Jarman. nid gwaith un gwr yw codi tas wair. Trefn y cerddi yn y Llyfr Du a ddilynwyd wrth gyflwyno'r testun ac fe'u hargraffwyd, gan estyn y byrfoddau, yn llinellau yn ôl y fydryddiaeth ac nid yn olynol fel yn y llawysgrif ei hun, ac y mae'n syndod y gwahaniaeth a wna hynny i'r gwaith o'u darllen. Mae'r Nodiadau, yr Eirfa a'r Mynegeion (Enwau Personol ac Enwau Lleol) yn cymryd bron gant o dudalennau ond y rhyfeddod ydyw fod yr Athro wedi medru cywasgu cymaint o wybodaeth oddi mewn i gyn lleied o dudalennau yn hytrach na dim arall. Lluniwyd yr Eirfa fel concordans i'r cerddi a rhoddwyd disgrifiad gramadegol, a hyd yr oedd hynny'n ymarferol ac yn bosibl, rhoddwyd ei hystyr i bob eitem. Drwy wneud hynny gallodd yr Athro hepgor rhoi llawer o esboniadau ar ystyr geiriau yn y Nodiadau a defnyddio'r nodiadau yn bennaf i nodi ffeithiau llawysgrifol, cynnig diwygiadau, a chyfeirio at awgrymiadau a wnaed gan ysgolheigion, gwaith sydd ynddo'i hun yn gyfraniad gwerthfawr dros ben, oblegid y mae'n amlwg nad yw'r Athro wedi darllen nemor ddim yn ystod y blynyddoedd heb ystyried ei berthnasedd i astudiaeth o Lyfr Du Caerfyrddin. Nid yw'n rhyfedd felly fod yma gynhaeaf godidog a bod y cynaeafwr yn cymryd ei le fel un o bennaf cymwynaswyr ysgolheictod Cymraeg yn yr oes hon. J. E. CAERWYN WILLIAMS