Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

drwy ddweud 'Erys rhai bylchau, wrth gwrs. a thebyg iawn bod rhaid disgwyl hyn mewn gwlad y mae ei diwylliant ysgrifenedig hi yn dibynnu cymaint ar ddiwydrwydd gwirfoddol amser-hamdden'. Tueddu i fod yn rhy benagored a chyffredinol y mae'radroddiadau (Adran B); gwelir y bai hwn ar ei waethaf yn adroddiad un-paragraff Cymdeithas Hynafiaethau Cymru, lle y dywedir fod y Gymdeithas wedi'i sefydlu yn 1 846 ac y sonnir am gynnal 'un wythnos o deithiau yn flynyddol wedi ei chanoli arardalyng Nghymru a'r Gororau' — heb enwi man a dyddiad yr wythnos yn 1982, na rhoi enw na chyfeiriad unrhyw swyddog. Mae'r adroddiadau eraill yn llawnach, ond ychydig ohonynt sy'n rhoi digon o ffeithiau a ffigurau i'm bodloni'n llwyr. Cymysg. mewn pwnc a dull, yw Adran A. gyda'Chwaraeon'(sy'n adroddiad ffeithiol a di-duedd oni fernir fod rhoi'r Ile blaenaf i rygbi yn hytrach na snwcer yn dangos tuedd) yn y naill begwn. ac 'Y Teledydd' (sy'n ddadl argyhoeddiadol o blaid dysgu i bobl sut i edrych ar y teledu'n feirniadol a deallus'yny llall. Ond petai dyn yn darllen y llyfr o'i gwr. fe gâi ei daro yn ei dalcen gan y llith gyntaf. 'Y Mudiadau Cenedlaethol'. sydd (a bod ychydig yn annheg, efallai) yn collfarnu pob mudiad arall 0 safbwynt Adfer; ac wedi iddo ddarllen yr holl sylwadau ac Adroddiadau eraill fe gâi orffen yn fuddugoliaethus i sain utgorn adroddiad Adfer. sy'n dod yn olaf. Efallai mai damwain a wnaeth y ddwy lith Adferllyd yn ffrâm i'r cyfan; ond mae'n anffodus fod y llith gyntaf yn taro nodyn mor anwrthrychol. Dealler: nid collfarnu safbwynt awdur y llith yr wyf, ond collfarnu'r cyflwyniad arwynebol o'r safbwynt. Croeso iddo gredu mai gwastraff amser yw gwneud dim oll â gwleidyddiaeth gyfansoddiadol y Deyrnas Gyfunol, ac iddo o'r herwydd ymgadw oddi wrth waith dros Blaid Cymru; ond meddwl yn niwlog y mae'r sawl sy'n derhyn bodolaeth plaid wleidyddol gyfansoddiadol ac yna'n gwarafun iddi weithredu'n gyfansoddiadol wleidyddol. (Wrth gwrs. nid yw dweud hynny'n golygu fy mod yn credu na weithredodd y Blaid erioed yn annoeth ond mater arall yw hynny. nad oes le i'w ddilyn yn awr.) Anghyflawn fyddai adolygiad ar lyfr Cymraeg heb ryw air o feirniadaeth ar yr iaith ynddo: ac yr wyf innau amddilyn y patrwm drwy ymosod ar Brydeindod iaith 'Y Mudiadau Cenedlaethol' sy'n galw 'Llywelyn Ein Llyw Olaf'ar y tywysog Llywelyn ap Gruffudd, fel petasai Dafydd ap Gruffudd ac Owain Glyn Dwr heb fod erioed. Aberystwyth DAFYDD JFNKINS M. WYNN THOMAS, Morgan Llwyd. University of Wales Press on behalf of the Welsh Arts Council. Tt. 83. Pris: £ 2.95. Y MAE Morgan Llwyd yn un o'r ffigurau mwyaf diddorol oll yn hanes llenyddiaeth Cymru. Nid oes raid dal taw ef yw'n llenor mwyaf diddorol, er y gellir dadlau'r achos hwnnw hefyd; ond fel ffigur, y mae'n hynod hynod ddiddorol. O blith y mawrion, o ran amrywiaeth y dylanwadau a fu arno, o ran cyffroi'i rawd, o ran ystyfnigrwydd ffrwythlon ei unigolyddiaeth, ac o ran ei arwyddocâd yn ei ddydd, Saunders Lewis yw'r unig un sy'n cymharu ag ef. Ac ym mrwydr yr oesau, ni hoffwn orfod dewis rhyngddynt. Gwir ei wala, ni chafodd Llwyd ddilynwyr politicaidd (ac eithrio, wrth gwrs, ei braidd fechan yn Wrecsam). Er hynny, ef yw'r symbol disgleiriaf a feddwn o'r cyfnewidiad diwylliadol mawr a ddigwyddodd yn yr ail ganrif ar bymtheg, cyfnewidiad yr ydym ni i gyd, o Charles Edwards hyd at Syr Charles Evans, yn etifeddion iddo, sef y briodas a fu rhwng gwaed Cymru ac ymwybyddiaeth Lloegr. Bu gwaed Cymru ac ymwybyddiaeth Lloegr yn yr un gwely cyn hyn, do yn siwr, a gwnaethpwyd mwy o ffýs o'u cyplu y troeon hynny. Ond o hyn ymlaen y mae eu huniad mor sicr fel na sylweddolwn weithiau taw Seisnig yn eu gwraidd yw rhai o'r pethau y mynnwn eu bod yn brif nodweddion ein Cymreictod, Anghydffurfiaeth grefyddol, emyngarwch, rhydd- frydiaeth, hyd yn oed rygbi. Ym mhrofiad Piwritanaidd Morgan Llwyd y mae'r traddodiad Taliesinaidd, Pabaidd, ac aristocrataidd, yn cael ei oddiweddyd yn llwyr am y tro cyntaf erioed -gan ruthr radicaliaeth Llundain Fodern. Ac yng ngweithiau Llwyd y mynegir, yn ddigyfaddawd wych am y tro cyntaf yn Gymraeg, y duedd Brotestannaidd i angori'r weledigaeth apocalyptig ym mhrofiad yr unigolyn, fel cynnyrch arbrawf dychmygol yn hytrach na disgyblaeth sagrafennol. Gwyddai ef o'r gorau pa mor syfrdanol newydd oedd ei waith, ac er bod ei resymau hanesyddol ef dros wybod hynny yn wahanol i'n rhesymau hanesyddol ni, fe wyddai hefyd pa mor bwysig oedd ei