Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerddi Llanfwrog JOHN ROBERTS Er Cof am Edward (Un yr aeth bywyd yn faich iddo) Ni flinai y gwr aflonydd ei gamre, Hoff gymrawd y mynydd; Ond daeth taw ar hen awydd Dringwr brwd mewn cwmwd cudd. Ei ddydd a droes yn ddioddef, a'i fyd Yn ofidus hunllef. O'i wyll oer ni allai ef Edrych a gweld ffordd adref. 1 fwynaf gwlad Llanfynydd, a hawlio Ei aelwyd o'r newydd; Aeth ei hiraeth o'r herwydd Yn ddim ond hiraeth heb ddydd. Mud yw cân ei biano; a'i fysedd, Difiwsig ynt heno: Ni rydd y meistri iddo Nwyd y gerdd nad â o go'. Encil haf ym min afon a fynnodd Yn fynwent gobeithion; Y wefr hael a daniai'i fron, Hithau ddiffoddodd weithion. Dolur fu ei dawelwch, a'i osteg Yn ddiystyr dristwch. Heb fedd, fe gafodd heddwch Noswyl hir ynys ei lwch.