Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Stori Organydd Kufstein Castell ffein Kufstein a'r cylch ar lechwedd ei balchedd byw, afon Inn yn y fan honno a'i dewiniaeth a ymdaenai'n iredd y Tirol, castell ac organ yn cymell argoel o lwydd y wlad a'i hanian enwog: Roedd yr offeryn yn eilun o bedwar mánwàl, a'i wylied oedd diogelu trysor cerddoriaeth yn gwynnu'r genedl- hud Haydn, sêl Mozart, twf Beethoven, ceinder syber Schubert, y dalaith sy'n dalaith Strauss a'i deulu, a'r berw'n bywhau'r byd. A phlant a ddeuant yn ddeuoedd i ddatgan clod organydd ffein Kufstein a'r cylch. Un tro roedd e'n fore wrth yr argoel ar waith yr organ, ond fferrodd nodau ei offeryn, heb i ias bysedd gyffroi na deffroi ffrwd yn llif dylifiant. Roedd un stop a'r ddawn a'i stôr ar ochor gadarn yr organ a'i brint ar yr wyneb, a'i raen a ddywedai'n ddi-feth: 'Beth pe bai.' Gwasgu esgud, yna rhyw sẃn a rhyw sain yn dod wedyn.