Skip navigation

Y Traethodydd

 - 

Cyf. CXL (594-597) 1985

Stori organydd Kuftein

Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
Stori Organydd Kufstein
Castell ffein Kufstein a'r cylch
ar lechwedd ei balchedd byw,
afon Inn yn y fan honno
a'i dewiniaeth a ymdaenai'n
iredd y Tirol,
castell ac organ
yn cymell argoel
o lwydd y wlad
a'i hanian enwog:
Roedd yr offeryn yn eilun o bedwar mánwàl,
a'i wylied oedd diogelu
trysor cerddoriaeth
yn gwynnu'r genedl-
hud Haydn,
sêl Mozart,
twf Beethoven,
ceinder syber Schubert,
y dalaith sy'n dalaith Strauss a'i deulu,
a'r berw'n bywhau'r byd.
A phlant a ddeuant yn ddeuoedd
i ddatgan clod organydd
ffein Kufstein a'r cylch.
Un tro roedd e'n fore
wrth yr argoel ar waith yr organ,
ond fferrodd nodau ei offeryn,
heb i ias bysedd
gyffroi na deffroi ffrwd
yn llif dylifiant.
Roedd un stop a'r ddawn a'i stôr
ar ochor gadarn yr organ
a'i brint ar yr wyneb, a'i raen
a ddywedai'n ddi-feth: 'Beth pe bai.'
Gwasgu esgud,
yna rhyw sẃn a rhyw sain
yn dod wedyn.
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.