Skip navigation

Y Traethodydd

 - 

Cyf. CXL (594-597) 1985

Stori organydd Kuftein

Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
Dychryn, a dechrau
yn lew o'r newydd,
ond, nefoedd, roedd y rhithm
yn aflwydd, yn rhy gyflym.
A dyna'r fel y denid
ysfa'r dyrfa a'i gyrfa i gyd
islaw yn y dref, fel yslêd-
y bobl yn eiddgar lu ar garlam.
Cynnig ar y canu
a'i alar eilwaith,
ond araf a diafael
oedd eiriol y gerddoriaeth,
a slog y dre' islaw
yn ymateb i'r synwyrebau
yn argoel yr organ
trwy gerdded wedyn
ac ynni nawr tuag yn ôl
yn ddi-drefn yn wysg eu cefnau:
gwr o'i gryfder yn arfer berfa
yn ei hwyl tuag yn ôl,
a dyndod y gwaelodion
yn dilyn yn deulu
a wnaed yn ddynwaredwyr.
Dau blentyn ar hyn a fynnai-
mab a merch,
mynnu myned
o argoel i olwg yr organ
ac anian yr organydd,
hwythau'n dyheu am yr hawl
i glywed eurgan yr organ, ei rhin
a dull ei chymeriad iawn,
a hynny a fu wrth fodd
y ddau'n ymgolli yn y ddawn-
dwylo a'u nodiant yn llawn dylanwadau.
Ac wele gerddediad y gwaelod
yn bobl oedd yn barch
at gymeriad hen draddodiad di-drai
wrth wrando'r gerddoriaeth
yn nirgel rithiau'r organ-
rhyfedd fel yr afon-
yn datganu i deulu eu dydd
drysor y gerddoriaeth
sy'n gwynnu'r genedl-
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.