Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Jones i durio i blygion rhyfedd ac ofnadwy ei gymeriadau, gan gyfleu ymwybyddiaeth newydd o realiti, ac roedd hynny nid yn unig yn ffres ond hefyd yn creu teimlad anghysurus o ansicrwydd. Os oedd rhywun yn wynebu aniscrwydd yn y cyfnod hwn, T. Rowland Hughes oedd hwnnw, ond roedd wynebu'r peth mewn bywyd go-iawn yn ddigon iddo ef, ac fe ddihangodd rhagddo yn ei nofelau. Er ei fod, fel gwr gyda dosbarth cyntaf mewn Saesneg, ynghyd â diddordeb byw mewn llenyddiaeth o bob math, yn hollol gyfarwydd mae'n siwr â Joyce a'r awduron modernaidd, pan ddaeth yn ddydd o brysur bwyso arno ef ei hun, fe wrthododd eu hesiampl hwy a bwrw'i goelbren gyda'r awduron traddodiadol, mwy rhamantaidd eu gogwydd. Mi fyddaf i'n meddwl am T. Rowland Hughes y dyn fel person eithaf soffistigedig. Mae 'na amryw o arwyddion hefyd ei fod yn uchelgeisiol. Bu'n Llywydd y myfyrwyr yn y Coleg ym Mangor, aeth i Rydychen i ymchwilio, ac er iddo gychwyn ar ei yrfa feìpupil teacher, roedd ei fryd ar fod yn wr academaidd, yn ddarlithydd Prifysgol, ac mae'r ffaith iddo fynd i Lundain yn Warden y Mary Ward Settlement ac yn gyfarwyddwr y Tavistock Little Theatre yn awgrymu fod ei lygad ar bethau uwch o hyd. Fel cynhyrchydd radio roedd yn ymfalchïo yn y sylw a gâi ei raglenni nodwedd gan feirniaid y wasg uchel-ael Saesneg. Ond mae'n anodd cysoni'r gwr soffistigedig hwn â'r nofelydd gwerinol sy'n gosod normalrwydd uwchlaw popeth arall. Pan ddaeth yn wasgfa arno, gwelodd nad ymysg academwyr Rhydychen na gwyr theatr Llundain na phobl y BBC yng Nghaerdydd yr oedd ei le; gwelodd mai chwarelwyr Arfon oedd halen y ddaear. Do, fe ddaeth yn ôl at ei goed. Hon oedd y gymdeithas yr oedd yn ei nabod orau wedi'r cwbl, ei chymeriadau lliwgar hi a lanwai'i ddychymyg, a'i thafodiaith ddilediaith a fyrlymai yn ei ben. A does dim amheuaeth na ddewisodd yn iawn. Ei filltir sgwâr yw ffrâm bictiwr orau'r llenor fel arfer er nad yn ddieithriad. Ond ffrâm yw hi. Y tu mewn i'r ffrâm fe ellir gosod ffotograff neu artistwaith. Gwendid mawr T. Rowland Hughes yw iddo fodloni ar fod yn ffotograffydd. Mae'n ffotograffydd da wrth reswm, ac mae 'na lawer o bleser i'w gael wrth fodio albwm o hen luniau diddorol. Ond y peryg yw defnyddio'r albwm i ddianc i dynerwch atgofion. Mae 'na ddagrau mewn atgofion, wrth gwrs, ac mae 'na fwy na thwts o hiraeth yn nofelau Rowland Hughes. Ond fe ellir disgwyl mewn nofel olwg ar y byd, dehongliad o fywyd, a rhaid wrth ddyfeisgarwch artist i beintio llun sy'n ddwfn ei arwyddocâd. Er nad yw'r dyfnder creadigol yna i'w ddarganfod yn y nofelau, maen nhw- fel unrhyw weithiau llenyddol eraill — yn adlewyrchu safbwynt serch hynny. Ac mae'n safbwynt ofnadwy o Gymreig. Safbwynt tawel ac anchwyldroadol ydyw, sy'n ildio i rymusterau cymdeithasol, yn derbyn fod raid i ddyn gael ei fowldio gan ei gymdeithas er mwyn ffitio'n llyfn ynddi. Mae normalrwydd yn cael ei ddyrchafu i lefel safon foesol bron. Nid na chaiff y cymeriadau dipyn o raff weithiau, ac mae gan yr awdur ddigon o synnwyr digrifwch i adael iddynt gamu oddi ar y llwybr cul rwan ac yn y man, dim ond i hynny gael ei wneud o ran hwyl ysgafn yn hytrach na bwriad pendant i ddrysu'r safonau. Fe ddadansoddodd Dr. Emrys Parry y modd y mae'r cymeriadau bron yn ddieithriad yn cydymffurfio â'u rôle gymdeithasol ddisgwyliedig. Mae yna Fuchedd A a Buchedd B pendant