Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

orfanwl ynglŷn ag egwyddorion mwy pendant yn y cylch crefyddol neu wleidyddol. Wrth sgrifennu Rhagair i gyfrol ardderchog Emyr Jones, Bargen Dinorwig, mae'r Athro Bedwyr Lewis Jones yn dweud mai 'digwyleidd-dra ar y naw. Yw i fab i dyddyn o ben-draw Sir Fôn sgrifennu rhagair i gyfrol am chwarel gan un a fu ei hun yn chwarelwr'. Rhaid i minnau gydnabod fy nigwilydd-dra innau, fel mab i dyddyn o ganol Meirionnydd, yn meiddio beirniadu awdur y byddai'n llenyddiaeth ni'n llawer tlotach heb ei gyfraniad. Ond 'wnaifffy sylwadau i ddim tynnu'r un iot oddi wrth ei werth diamheuol fel storiwr o'r radd flaenaf. Coleg Prifysgol Cymru, JOHN ROWLANDS Aberystwyth. Traddodwyd y sylwadau hyn yn Theatr Oriel Eryri, Llanberis, 1 Mai, 1982, dan nawdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a diolchaf i'r Llyfrgellydd, Dr. Geraint Gruffydd am ganiatâd i'w cyhoeddi.