Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

A yw Tŷ'r Arglwyddi yn cyflawni'r pedair swyddogaeth hyn? Fe ellir mynegi barn ar hyn o beth ond mae'n rhaid dweud na chafwyd astudiaeth foddhaol ar y pwnc, yn sicr nid yn y blynyddoedd diwethaf, i brofi gweithrediad Ty'r Arglwyddi ac i'n galluogi i ffurfio barn foddhaol. Fy marn bersonol i yw ei fod yn cyflawni swyddogaeth bwysig fel siambr adolygu: mae'n werth sylwi i'r Llywodraeth gael ei threchu ar 45 achlysur yn Nhŷ'r Arglwyddi er etholiad 1979. Golyga hynny wrth gwrs fod aelodau'r croesfeinciau a'r Ceidwadwyr wedi cefnogi'r Gwrthbleidiau yn rhai o'r dadleuon ac nid wyfyn amau y bydd y duedd hon yn parhau lIe na bo'r materion dan sylw yn debyg o effeithio ar ystyriaethau gwleidyddol pwysicaf eu plaid. Er enghraifft, ar unrhyw fater yn ymwneud â diwydiant cyhoeddus a phreifateiddio (y gair poblogaidd ar hyn o bryd) y rheilffyrdd neu'r gyfundrefn delathrebu, naill ai mewn rhan neu'n gyfan gwbl, ni ddisgwyliwn yn gyffredinol i'r Llywodraeth gael ei threchu yn Nhy'r Arglwyddi er ei bod yn werth sylwi hefyd i fesur ynglyn â gwneud rhan o'r Arolwg Ordnans yn fasnachol gael ei atal gan fwyafrif gweddol fawr beth amser yn ô1. Efallai y dylwn, yn y fan hon, roi ychydig o ffigurau a all fod yn gymorth i roi'r cyfan mewn persbectif. Cyfansoddwyd Ty'r Arglwyddi ym 1981-82 fel hyn: Urddolion trwy olyniaeth 765 Urddolion etifeddol sydd newydd eu creu 34 Urddolion am oes (Deddf 1958) 328 Arglwyddi'r Gyfraith 21 Archesgobion ac Esgobion 26 Cyfanswm 1,174 (allan o'r rhain cafwyd 241 heb writiau neu wedi cael caniatâd i fod yn absennol) Dyma ffigurau'r pleidiau: Ceidwadol 440 Llafur 130 Rhyddfrydol 38 Y Blaid Ddemocrataidd Sosialaidd 34 Y croes-feinciau 200 Comiwnyddion 1 Eto ym 1981-82 cafwyd 147 o Ddiwrnodau Eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi dros gyfnod o 39 wythnos yn ystodyflwyddyn a threuliwyd 930 awr 4 munud wrth y gweithgareddau. Y nifer a fynychai'r Tŷ yn feunyddiol ar gyfartaledd oedd 284. Hyd yr eisteddiad yn feunyddiol ar gyfartaledd oedd 6 awr 20 munud ac ymrannodd y Tŷ ar 147 achlysur. Treuliwyd dros hanner amser y Tý yn trafod Mesurau cyhoeddus; canran yr amser yn ystod yr un sesiwn oedd 50.9%. Dechreua'r rhan fwyaf o Fesurau ar eu hynt yn Nhŷ'r Cyffredin, fel y dylent, ond bydd Mesurau o natur annadleuol neu amhleidiol yn dechrau yn Nhŷ'r Arglwyddi. Enghraifft o hyn yn ystod y sesiwn 1982-1983 yw'r Mesur Treftadaeth cynhwysfawr a phwysig. Un o'rcwestiynau y