Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

bod yn faterion cyfansoddiadol, fod y ddadl ynglyn â bodolaeth naill ai dwy siambr neu un 0 leiaf cyn bwysiced, ac felly yn haeddu'r un driniaeth. Y mae gan Edmund Burke rywbeth i'w ddweud ar y materion hyn bob amser a buddiol fyddai ei ddyfynnu yn awr: 'Saif ein Cyfansoddiad ar linell gydbwysedd go fain gyda chlogwyni serth a dyfroedd dyfnion ar y naill ochr a'r llall. O'i dynnu'n ôl rhag gwyro'n ormodol tua'r naill ochr, fe all fod perygl o'i wthio'n ormodol tua'r 11a11'. Tŷ'r Arglwyddi, CLEDWYN HUGHES Westminister. 26.1.84. Parhad o dudalen 112 Bu cyfeirio at Farcsiaeth yn y cyfnod hwn ond mae'n amlwg na bu digon o du'r diwinyddion a'r eglwysi i beri i D.E.D. allu rhoi llawer o ofod i'r pwnc, er bod yr Adran, 'Segurdod yn Sarhad'(289) yn ddigon i gynddeiriogi dyn wrth ddarllen cronicl y difrod ar Gymru a rhai yn gweld 'fel pe bae cynllwyn ar droed i ladd y genedl'(295). Y mae cyfeiriadau ar Farcsiaeth gan J.R.J. ac A.D.R. (280, 281) ond gallesid 'rwy'n siwr fod wedi cyfeirio at un fel T. E. Nicholas, pregethwr gyda'r Annibynwyr! Erbyn heddiw mae chwarter y byd yn byw dan lywodraethau Marcsiaidd o ryw fath ac mae syniadau Marcsiaidd wedi effeithio ar bron holl agweddau ein bywyd gan gynnwys athroniaeth a diwinyddiaeth. Gellir ystyried Marcsiaeth fel heresi Gristionogol a'i chollfarnu ar lawer ystyr ac yn bennaf oherwydd ei anghred yn Nuw ond ni ellir ei hanwybyddu. Un o brif bregethau Marcs yw'r 'ymddieithro' (alienation) sydd wedi digwydd ym mywyd Dyn oddi wrtho'i hun, oddi wrth ei waith, oddi wrth ei gynnyrch, oddi wrth ei gyd-ddyn a rhydd ef y bai ar gyfalafiaeth, ac yr ydym yn dyfod yn fwyfwy ymwybodol o'r ymddieithro yma, ond mae'r Testament Newydd wedi sôn am yr union ymddieithro yma ers canrifoedd cyn Marcs ac yn cynnig ffordd ymwared ffordd y Cymod a ffordd maddeuant. Erbyn hyn er bod ffurfiau swyddogol Marcsiaeth yn elyniaethus i grefydd, mae'n arwyddocaol fod nifer o feddylwyr Marcsiaidd megis Ernst Bloch, Garaudy ac eraill yn trafod pynciau diwinyddol. Mae 'diwinyddiaeth yn mennu' arnynt hwythau. Fel pob heresi y mae ynddi her i Gristionogion ac ni wna'r ddeialog ddim drwg. Os yw'r capeli yn dadfeilio, mae temlau moethus Mamon yn codi ym mhob tref a Christionogaeth lwyd ei gwedd yn ymddangos fel pe bai wedi colli gafael ar neges y Cariad creadigol ac yn oddefol dawelyddol yn goddef pob math ar ddad-ddynoli (gw. Urddas Dyn 244t). Mae'r ffaith fod yna ddeialog yn digwydd ar Gyfandir Ewrop rhwng Marcsiaid sydd wedi cefnu ar Gomiwnistiaeth a Christnogion a rhwng Marcsiaid a Christionogion yn y Trydydd Byd a'i dlodi a'i newyn sydd wedi ei greu gan gyfalafiaeth yn rhyw arwydd nad yw Cristionogaeth a Marcsiaeth yn gyfan gwbl wrthwynebus i'w gilydd er bod hyn yn peri blinder i lawer heblaw'r Pab a'i gynghorwyr diwinyddol megis Rahner. Mae hon yn gyfrol sy'n codi mil a mwy o gwestiynau. Bydd cwyno na fydd cyfeiriadau at rai cyfranwyr ond o fewn gofod un gyfrol rhaid oedd dewis a dethol, a phwy bynnag a'i pryn bydd ar ei ennill. Uwyncelyn EDWIN PRYCE JONES