Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cynheiliaid Olaf Hen Draddodiad 'CAS gwr na charo'r wlad a'i maco (mago),' meddai un ddihareb Gymraeg, ond gellid yn hawdd fathu dihareb arall a dweud, 'Cas gwr na charo wlad heblaw'r wlad a'i maco,' oblegid mae'n ddyled arnom garu'r byd hefyd, a chan mor anodd yw lledaenu cariad i gwmpasu hwnnw, un ffordd at feithrin cariad ato yw mabwysiadu gwlad arall i'w charu'n ychwanegol at ein gwlad enedigol. Fy newis wlad gyntaf i ar ôl Cymru o blith y gwledydd oedd Palesteina, ac ni synnwn petai hynny'n wir i lawer o'm cenhedlaeth i, oblegid onid y map cyntaf iddynt hwy fel i mi ei weld oedd map o Balesteina? 'Roedd hanes cryn dipyn o'r wlad honno yn y Beibl a oedd yn cynnwys y map, a gellid cyflenwi'r hanes hwnnw o gyfrol drwchus Josephus ar hanes yr Iddewon, peth llawer haws i ni ddod o hyd iddo yn ein hieuenctid na hanes ein hynafiaid ni ein hunain, y Cymry. Ond ni fûm i erioed ym Mhalesteina, ac ni fûm erioed yn byw yn yr Eidal, fy ail ddewis oherwydd cysylltiad y wlad honno â'r iaith Ladin, a chyn y gellir caru gwlad yn iawn, ei charu serch ei diffygion yn ogystal ag am ei rhinweddau, rhaid byw ynddi, a'r unig wlad y gallaf ddweud fy mod wedi byw ynddi cyn i'm gwaed ddechrau rhedeg yn oer yw Iwerddon. Dyna paham mai fy ail wlad i, fy ngwlad fabwysiedig i, megis, yw, nid Palesteina ac nid yr Eidal, er bod lle cynnes i'r ddwy yn fy nghalon, ond yn hytrach Iwerddon. Afraid i mi ddweud, nid yr Iwerddon sydd yn y papurau newyddion yn boenus o gyson y blynyddoedd diwethaf hyn. Na, cystal i mi gyfaddef, mae gennyf fy Iwerddon fy hun, neu'n hytrach fy narlun i fy hun ohoni, darlun amgen na darlun fy nghyd-Gymry ohoni ac amgen hyd yn oed na darlun 'ei thrigolion hi ohoni, ac eto nid un dychmygol eithr un a ffurfiwyd gan brofiad dwy flynedd o fyw ynddi, ac yn arbennig o fyw yng Nghonamara, lle cefais fy unig brofiad o fyw mewn gaeltacht, mewn bro a oedd yn drwyadl Wyddeleg a Gwyddelig, mewn bro na allai fod yn unlle ond yn Iwerddon. Dywedir fod Pádraig Mac Piarais (Patrick Pearse) a gododd dy iddo'i hun yn Ros Muc, Conamara, ac a ddaeth i glywed curiad calon ei genedl yno, wedi troi unwaith at gydymaith a oedd yn cydgerdded ag ef ar hyd un o'r mân ffyrdd, ac wedi dweud gyda dwyster arbennig yn ei lais, 'Fe allem gael teyrnas Wyddeleg o'n heiddo ein hunain yma,' a diau mai ar ddelw a llun y wlad a welodd yng Nghonamara y creodd Iwerddon y breuddwyd a'r delfryd y bu farw drostynt. Diffiniodd Muirhead Gonamara fel 'the beautiful barren mountainous region bounded on the South by Galway Bay, on the East by Lough Corrib and Lough Masc, on the North by Clew Bay, on the West by the Atlantic,' ond yn ystyr briod, gyfyng yr enw, Conamara yw'r rhanbarth y tu ôl i Clifden (An Clochán) gyda'r Twelve Benns/ Pins (Na Beanna Beola) a'r anialwch o fân lynnoedd i'r Deau. Mae'n wlad odidog ei golygfeydd, mor odidog fel na ellir byth ei disgrifio mewn geiriau. 'The best guide book that was ever written,' meddai W. M. Thackeray, yn ei Irish Sketch Book, 'cannot set the view before the mind's eye of the reader. A11 that one can do is to lay down the pen and ruminate and cry, "Beautiful," once more.' Cafodd yr artistiaid mewn paent fwy o lwyddiant na'r