Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

os oedd yn chwanegu at yr addurniadau, megis, ac yn rhoi ei ddelw ei hun ar y disgrifiadau stoc o ymbaratoi at frwydr ac o frwydro, etc., hen elfennau a ddefnyddiai, yr elfennau traddodiadol. Wrth adrodd seanchas, h.y., hanesion am bobl a digwyddiadau lleol, y mae'r storïwr, wrth gwrs, yn ychwanegu hanesion y bu ef ei hun yn llygad dyst iddynt, ond y mae ei ddull, ei ffordd o'u hadrodd yn aros yr un ag wrth adrodd hanesion na fu'n llygad dyst ohonynt. A rhaid cofio nad oedd y storïwyr hyn yn gwahaniaethu rhwng hanes a stori fel y gwnawn ni. Pe holid Éamon a oedd ei storïau arwrol yn wir, ei ateb fyddai 'Na!' ac eto yr oedd adegau pryd y tyngech ei fod yn credu ynddynt fel storïau gwir. Heblaw cof gafaelgar, 'roedd ganddo feistrolaeth anghyffredin iawn ar yr iaith Wyddeleg, meistrolaeth a'i dangosai ei hun nid yn unig yng nghyfoeth ei eirfa ac nid yn unig yn amlder ei briod-ddulliau eithr hefyd yng ngorffennedd ei ymadroddion ac yn amrywiaeth ffurfiau ei frawddegau. Medrai ddweud yr hyn a oedd ganddo i'w ddweud, yn union i'r dim, heb fymryn gormod, heb fymryn rhy ychydig. 'Roedd ei gamp fel storïwr yn gynnyrch priodas rhwng dawn unigolyn a chrefft draddodiadol, ac anodd gorbwysleisio mor ffodus y buwyd i gael cynifer o enghreifftiau o orchest ei gamp cyn i'r Angau fynd â'i pherchen, oblegid pe na bai Liam Coisdealla wedi cyrraedd Cárna yr adeg y gwnaeth, hawdd y gallesid bod wedi colli'r cyfan. Ni chafodd Éamon neb i adrodd ar ei ôl 'Eochair, Mab Brenin yn Iwerddon', ac y mae hynny'n dristach na thristwch, gan ei fod efyn ei ffordd ei hun, fel y gwelsom, yn etifedd i draddodiad a oedd cyn hyned â Homer, a hyd yn oed yn hyn na hwnnw. Rhown y gair olaf i Séamus Ó Duilearga. Éamon Búrc, another storyteller of the parish (Cárna) gave our collector (sc. Liam Coisdeala) 158 tales. Some of these tales were very long: one of them (?sc. Eochair, a King's Son in Ireland) runs to 34,000 words, and it is one of the finest folktales I have ever read in any language. The story-teller died suddenly, 5 November, 1942, leaving unrecorded at least as much as he had already given us. He was one of the most amazing story-tellers I have ever known. (Proceedings of the British Academy, xxxi (1945) 190). J. E. CAERWYN WILLIAMS CYWIRIAD Yn f'ysgrif 'Cymraeg Iach', Rhifyn Gorffennaf, 1984, yr oedd gwall argraffu arbennig o anffodus lle’r oeddwn yn ymdrin â threiglo un math o enidol (anfeddiannol). Dylid darllen fel hyn ar dudalen 88: mai'r hyn y byddai pawb yn ei ddweud, pan oeddwn i'n ifanc yng Nghaernarfon gynt, oedd Lôn Fethal a Stryd Fangor. Yr arfer ar lafar, fel yn ôl rheolau traddodiadol, oedd treiglo enw priod genidol ar ôl enwau benywaidd megis Lôn, Stryd, Ffordd, Llan. EURYS ROLANT