Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfarch yr Athro W. D. Davies PETH braf yw gweld bod un o'r ysgolheigion blaenaf a gynhyrchodd Cymru ym maes y Testament Newydd, ac yn arbennig ym maes y berthynas rhwng y Testament Newydd ac Iddewiaeth, yn dal i ffynnu mewn nerth ac ymroddiad a disgleirdeb. Cyfeirio yr wyf at yr Athro W. D. Davies sy'n hanfod o Glanaman ac at ei lyfr diweddaraf, Jewish and Pauline Studies (tt. 419, Fortress Press, Philadelphia, 1984; hefyd yn awr gan Wasg y S.P.C.K., Llundain, £ 25). Nid amcanaf yma at adolygu'r gyfrol sylweddol hon. Carwn gyfeirio yn hytrach at rai pethau nodedig sydd ynddi, gan gyplysu hynny â mymryn o deyrnged bersonol. Gallwn fanylu yn wir ar rai materion personol gan imi berthyn ar un adeg i'r un dosbarth anrhydedd Groeg â W.D. yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Roedd ysgolhaig disglair arall, y Parch. Ddr. Isaac Thomas, yn yr un dosbarth, a'n prif hyffroddwyr oedd H. J. W. Tillyard a Kathleen Freeman. Yn ystod blwyddyn olaf y cwrs byddem bob un yn cael sesiwn unigol gyda'r Athro Tillyard i gyflwyno ein cyfansoddiadau Groeg iddo. Cofiaf un tro i W.D. ddweud wrthyf iddo gael cerydd eithaf llym gan yr Athro. Nid oherwydd ansawdd amheus ei gyfansoddiad. Byddai'n cael marc sylweddol yn gyson. Nage, arall oedd y gwyn. Byddai W.D. yn curo wrth ddrws yr Athro mewn ffordd mor swil a thawel nes ei bod yn anodd clywed y curiad. Anogwyd ef i guro dipyn yn fwy hyderus, a chaed sylw tebyg i hyn: 'Cofiwch fod y byd yn tueddu i'n derbyn yn ôl y safon a rown arnom ein hunain.' Wrth edrych yn ôl ar y digwyddiad bach yna, rwy'n sylweddoli bod W.D. wedi curo ar lawer drws pwysicach wedi hynny. Agorwyd iddo yn gyson a brwd, a hynny nid oherwydd unrhyw haerllugrwydd yn y curo ond oherwydd yr haeddiant cwbl anrhydeddus a welwyd yn ei waith. Bu hefyd gyswllt agosach rhyngom. Bûm yn ymweld â'r teulu hawddgar yn Glanaman, lle buom yn rhodianna ar y Mynydd Du. Cefais gyfle i werthfawrogi'r cynhesrwydd Cristnogol a nodweddai'r teulu a hefyd y traddodiad o ddiwydrwydd a phenderfyniad sydd mor amlwg yng ngyrfa W. D. Davies ei hun. Megis lleng yw'r anrhydeddau a ddaeth i'w ran. Mae darllen y Curriculum Vitae ar ddechrau'r gyfrol deyrnged hardd a gafodd ym 1976 (Jews, Greeks, and Christians, gol. R. Hamerton-Kelly a Robin Scroggs, Brill, Leiden) yn goleuo'r camau yn eglur. Wedi'r anrhydedd Groeg yng Ngholeg Caerdydd, anrhydedd Hebraeg yn yr un Coleg. (Neu hwyrach mai'r cwrs Hebraeg a orffennwyd yn gyntaf.) A dyna sail gadarn ddeublyg ei holl waith. B.D. yn y Coleg Coffa, Aberhonddu, wedyn ac yna'r radd ddiwinyddol yng Nghaer-grawnt. Yno bu hyfforddiant y Dr. C. H. Dodd, yr ysgolhaig mawr o Gymro, o bwys allweddol yn ei hanes, ac yn y blynyddoedd tawel hynny pan fu'n weinidog gyda'r Annibynwyr yn Eglwys Fowlmere, Swydd Gaer-grawnt, parhaodd hyfforddiant Dodd. Dyma flynyddoedd y myfyrdod mawr a esgorodd ar y gyfrol Paul and Rabbinic Judaism (Llundain, 1948; 4ydd Argr. 1980), cyfrol a ddug iddo radd D.D. Cymru yn yr un flwyddyn. Yn ddiweddarach dyfarnwyd iddo sawl doethuriaeth arall er anrhydedd, yn cynnwys rhai o Uppsala a St. Andrews, ond mae'n amlwg mai'r un gyntaf, a roddodd Prifysgol Cymru iddo operis causa, yw'r