Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Emynau Pedr Fardd PAN anwyd Peter Jones (Pedr Fardd) ym mwthyn tlodaidd Tan-yr-Ogof yng Ngarndolbenmaen ym Medi 1775, tarddai dwy ffrwd bwysig o ddiwylliant yn Eifionydd; y diwylliant crefyddol ymneilltuol, a'r diwylliant barddol. Ar ei aelwyd maethwyd Pedr o'r dechrau yn y ddau darddiad hyn. 'Roedd William Jesus, ei dad, yn fardd bro pur ddeheuig, a chanddo grap dda ar y gynghanedd. Cadwai ysgol nos yn ei gartref hefyd yn ystod misoedd y gaeaf, lle deuai nifer o'r ardalwyr, pob un â channwyll yn ei law, i ddysgu darllen a sgrifennu Cymraeg, (a pheth Saesneg), a mathemateg. Tan-yr-Ogof hefyd oedd cartref cyntaf Methodistiaeth yn y Garn, a bu i nifer o seraffiaid mwyaf y de a'r gogledd fendithio'r ty ag aml oedfa frwd. Lletyai pregethwyr yno ar eu teithiau yn fynych, ac mae'n debyg i'r ymgomio duwiol rhwng ei rieni a'r gwyr hyn gael effaith ddofn ar feddwl bywiog Pedr. Nid yw'n syndod iddo ddatblygu'n ddyn hynod olau yn ei Feibl, a hefyd yn fardd a allai chwarae pob math o gampau â'r gynghanedd. Er cyfoethoced ydoedd Eifionydd yn ysbrydol a barddonol, pur dlodaidd ydoedd o ran y materol yn ystod y blynyddoedd hyn. Teimlodd Pedr Fardd y pangau o fod eisiau 'rhannu'r un rhwng y naw', mae'n fwy na thebyg, ac yn ddwy ar hugain oed trodd ei olygon tuag at Fecca ieuenctid gogledd Cymru'r dyddiau hynny; Lerpwl. Bu'n byw yno hyd ei farwolaeth yn 1845, a daeth yn ffigur pur amlwg a pharchus ymhlith cymdeithas Gymreig drawsblanedig glannau Mersi. Fe'i hetholwyd yn flaenor yng nghapel Pall Mall, (capel Cymraeg cyntaf y Methodistiaid yn Lerpwl a agorwyd yn 1789) yn fuan ar ôl iddo gyrraedd y ddinas, ac er iddo gael ei ddiarddel o'i swydd ddwywaith am ysbaid, bu'n weithiwr diwyd yn ei eglwys, yn enwedig fel athro Ysgol Sul a chodwr canu. Yn wir, ar gyfer Cymdeithasfaoedd y Methodistiaid yn Lerpwl, ac i hybu canu'n yr Ysgol Sul, y cyfansoddodd amryw o'r pedwar ugain neu ragor o emynau o'i waith a ddiogelwyd. Rhoddai bob cymorth i egin-feirdd o blith y Cymry hefyd, a bu'n flaenllaw yn y gwaith o sefydlu Cymdeithas Cymreigyddion Lerpwl, a drefnai eisteddfodau a gweithgareddau diwylliannol eraill. Yn 1830 cyhoeddodd Pedr Fardd gasgliad pur gyflawn o'i emynau, dan y teitl Crynöad o Hymnau. Ceir tair rhan yn y llyfr hwn. Wyth ar hugain o emynau ar 'amrywiol destunau' sydd yn y rhan gyntaf, chwe emyn ar hugain yn seiliedig ar benodau o'r Hyfforddwr yn yr ail ran, a deunaw o emynau cenhadol yn yr olaf. Tynnwyd yr holl ddyfyniadau a welir yn y sylwadau isod o'r Crynôad hwn, ac fe geisir edrych yn awr ar rai o nodweddion cynnwys, ac arddull, ei emynau. Perthyn Pedr Fardd i ail do emynwyr y diwygiad Methodistaidd, a chydoesai â gwyr megis Edward Jones, Maes-y-Plwm, Thomas Jones, Dinbych, John Elias a Robert ap Gwilym Ddu. Cyfnod o ymgadarnhau, o sefydlogi, ac o ddiffinio athrawiaeth, oedd hwn ymhlith y Methodistiaid. Amhosibl yw gwadu fod grym angerddol ac arloesol diwygiadau mawr y ddeunawfed ganrif wedi llwyr ddiffodd, ond 'roedd y teimladau gwyryf a barodd chwyldro mwyaf Cymru fodern wedi oeri cryn dipyn erbyn y gwelodd y bedwaredd ganrif ar bymtheg olau dydd. 'Roedd Pedr Fardd yn wr canol oed pan dorrodd y Methodistiaid reffynnau olaf eu cysylltiad â'r Eglwys yn 181 I, a gwelodd wreichion y dadleuon